Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm ar 24 Gorffennaf ac mae'n agored i bob mudiad trydydd sector.

Am mwy o wybodaeth ar y prosiect, ymwelwch a'i wefan
ar www.brexitforumwales.org
Mae WCVA, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, wedi
ffurfio prosiect i helpu'r trydydd sector i ymwneud yn well â'r
ddadl ynglŷn â Brexit ac i ddylanwadu arni.
Dyma amcanion y prosiect:
- cysylltu mudiadau trydydd sector ac arbenigwyr blaenllaw yn y
maes i ysgogi dadlau a thrafod gwybodus
- galluogi grwpiau ac arbenigwyr i rannu gwybodaeth
- datblygu safbwyntiau trydydd sector ar y cyd a chymryd camau ar
y cyd pan fo'n berthnasol
Fel rhan o'r prosiect rydym wedi sefydlu Fforwm Cymdeithas Sifil
Cymru ar Brexit. Diben y Fforwm yw cael cyfarwyddyd clir gan
aelodau ynglŷn â'u prif feysydd o ddiddordeb mewn perthynas â
Brexit, beth yw eu prif bryderon a'r hyn yr hoffent ddylanwadu
arno. Bydd hyn yn helpu i lywio cyfeiriad y prosiect a'i
weithgareddau.
DY dyddiad nesaf am cyfarfod y Fforwm yw 20fed Chwefror 2019, o
1pm tan 4pm yn Caerdydd (lleoliad tbc)
I gael gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau sydd ar y gweill a
diweddariadau Brexit, anfonwch ebost at Jessica Williams jwilliams@wcva.org.uk.
Gallwch ddarllen diweddariad Brexit mis Gorffennaf yma.
Ariennir y prosiect hwn gan The Legal
Education Foundation.
