Brexit a’r trydydd sector yng Nghymru

A oes yna unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn uniongyrchol at WCVA i'ch cefnogi gyda'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo?  

Dal ati i siarad â ni. Rhowch wybod i ni beth sy'n digwydd, gan gynnal deialog dda.

Cofiwch gysylltu â 3set@wcva.org.uk os oes gennych gwestiwn neu ymholiad wrth i ni symud ymlaen. 

A oes cyfleoedd o hyd i sefydliadau'r trydydd sector ymwneud â Chyllid Ewropeaidd?

Oes, mae cyfleoedd o hyd, ac mae Trysorlys y DU wedi tanysgrifennu'r Rhaglenni hyd at 2020. Mae'n bwysig ein bod yn gwario'r arian sydd ar gael inni o hyd oherwydd bydd hynny'n cryfhau ein dadl o blaid unrhyw gyllid yn y dyfodol a all ddod i Gymru, neu beidio, ar ôl Brexit. Mae WCVA yn parhau i ddarparu'r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy'n ffordd wych i sefydliadau llai yn y trydydd sector fanteisio ar gyllid Ewropeaidd.

A fydd Cynhwysiant Gweithredol yn parhau hyd at 2020?

Mae WCVA yn ymgymryd â thrafodaethau â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ar hyn o bryd; maent i gyd yn ffafriol. Ein bwriad yw ceisio ymestyn Cynhwysiant Gweithredol hyd at fis Mawrth 2020.

A oes unrhyw beth y byddech yn argymell y dylai sefydliadau ei wneud i helpu i baratoi ar gyfer Brexit?

Mae angen i sefydliadau fod yn ymwybodol o rai o'r meysydd y bydd Brexit yn effeithio arnynt, er enghraifft materion amgylcheddol a chydraddoldebau. Dylai aelodau byrddau a staff sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag unrhyw newidiadau neu newidiadau arfaethedig, a gall WCVA helpu i hwyluso'r broses hon o rannu gwybodaeth. Felly, cofiwch gysylltu os credwch fod rhywbeth y gallwn helpu gydag ef.

Os ydych yn ymwneud â chyllid Ewropeaidd, ewch ati, cyflawnwch a gwariwch yr arian er mwyn cryfhau'r ddadl. Yn ddi-os, ymysg y pethau a fydd yn digwydd yn y 6 mis nesaf bydd ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl Brexit mewn cysylltiad â chronfeydd rhanbarthol. Mae WCVA yn galw am i Lywodraeth Cymru gynnal deialog agored i ganfod yr hyn y mae pobl yn dymuno'i gael, oherwydd un o'r pethau a ddangoswyd gan y refferendwm yw'r diffyg cyswllt rhwng cymunedau, llywodraethau a gwleidyddion; felly, gadewch inni gael y drafodaeth honno.

A ydych yn meddwl y byddai'n beth da i sefydliadau sydd â chofrestr risg gynnwys Brexit ynddi yn eitem sefydlog?

Ydym, yn arbennig os yw eich sefydliad yn cael cyllid Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Dylai Brexit fod yn eitem rheolaidd hefyd ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd a'r Ymddiriedolwyr.

Rydym wedi profi oedi hir cyn cael cymeradwyaeth i gyllid o'r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig (RCDF) (o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig); a ydych yn gwybod a yw Brexit wedi effeithio ar hyn, neu a yw rhywbeth arall yn achosi'r oedi?

Mae'n debyg iawn bod rhywbeth arall yn achosi'r oedi. Efallai ei fod yn deillio o amharodrwydd y Comisiwn i drafod newidiadau y tu mewn i'r rhaglen, neu efallai fod ei waith o fynd drwy'r rhaglen yn mynd rhagddo'n arafach. Lansiwyd y Rhaglen Datblygu Gwledig ychydig ar ôl y Cronfeydd Strwythurol ac felly mae'n bosibl ei bod yn dal yn y broses o gyrraedd yr un lle.

Mae cyllid yn hollbwysig, ond mae angen inni gofio'r risg o fudo gwrthdro ac effaith llafurlu llai yng Nghymru, yn arbennig yn y sector gofal ac iechyd. A oes unrhyw un sy'n ystyried y mater hwn yn benodol?

Nac oes, hyd y gwyddom ar hyn o bryd. Un o'r agweddau mwyaf negyddol ar Brexit a mudo oedd y diffyg dadleuon trylwyr am y pwnc hwn.

Mae'n ddiddorol nodi bod Theresa May yn sôn yn barod am gyfnod trosiannol o lafur symudol. Mae'r iaith yn dechrau newid o fath sy'n cyfleu ymyl galed, sef 'torri'r cysylltiadau ymhen 2 flynedd', i gyfleu cyfnod trosiannol lawer mwy cysurol. Mae'n debyg mai un o'r pethau cyntaf y bydd y Comisiwn a Llywodraeth y DU am eu datrys yw statws dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a dinasyddion Prydain sy'n byw mewn gwledydd eraill. Mae angen i'r sector gadw golwg ar y datblygiadau yn y maes hwn a lobïo Llywodraeth y DU os oes angen.

A yw'r gostyngiad yng ngwerth y bunt wedi arwain at gyllid ychwanegol gan yr UE i Gymru?

Ydy. Mae pob un o'r rhaglenni Ewropeaidd yn gweithredu mewn Ewros ac yna cânt eu trosi'n bunnoedd. O ganlyniad, mae gostyngiad yn y bunt yn golygu bod y gyfradd gyfnewid yn well, ac felly mae gennym fwy o Ewros i'w gwario, mewn gwirionedd.

Beth sy'n debygol o ddigwydd i raglenni Interreg?

Mae sôn eisoes y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn rhai o'r rhaglenni trawswladol ehangach. Efallai y bydd am fuddsoddi yn Interreg, yn arbennig rhaglen Iwerddon Cymru, a hynny er mwyn lleddfu rhywfaint o'r gweithgarwch a all ddigwydd mewn cysylltiad â'r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae'r prifysgolion yn lobïo dros barhau i gael mynediad at Horizon 2020, a chawn ar ddeall nad yw sefydliadau Ewropeaidd yn dymuno colli prifysgolion y DU o'r rhaglen hon.

A ydych yn meddwl y bydd Brexit yn dod â chyfleoedd i'r sector?

Mae'n anodd dweud ond mae cyfleoedd bob amser, er enghraifft yn achos TAW i elusennau. Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith ynghylch TAW yn creu llawer iawn o ddryswch ac felly gall fod cyfleoedd i'w symleiddio.

Mae'n bwysig cael trafodaeth ynglŷn â pholisi rhanbarthol. Mae angen i'r sector gyflwyno'r ddadl dros fynediad parhaus at gyllid.

Sut y gall y trydydd sector gyfrannu at yr oes ar ôl Brexit o ran cyllid a fydd yn cael ei gadw yn y DU? Sut y gallwn sicrhau na fydd cyllid a all ddod o dan deitl cyllid 'cymuned' sy'n dod o San Steffan yn cael ei ddatganoli wedyn i gyllid cyffredinol Llywodraeth Cymru, gan beidio byth â chyflawni'r diben gwreiddiol?

Mae dadl i'w chynnal o hyd am yr hyn a fydd yn digwydd i gronfeydd dychweledig a beth fydd y cronfeydd hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso am iddi gael eu rheoli. Mae dau safbwynt: mae un yn datgan y bydd yn dod yn ôl i Gymru a bydd Llywodraeth Cymru yn ei reoli, ac mae'r ail yn datgan y bydd yn parhau'n rhaglen ranbarthol y DU ac y bydd arian yn cael ei ddyrannu ar lefel ranbarthol. Gallai ddibynnu ar y modd y mae'r berthynas rhwng y gwladwriaethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn datblygu. Efallai y bydd gennym wladwriaeth ffederal yn y pen draw, er mwyn osgoi'r sefyllfa o'r Alban yn gadael yr Undeb - yn debyg i'r hyn sydd gan Ewrop, ond â 4 aelod yn hytrach na 27 -  ac yn y modd hwnnw gallai San Steffan reoli'r rhaglen. Mae hyn yn rhan o'r drafodaeth y mae angen inni ei chael am y ffordd y mae angen inni lobïo a gweithio'n galed i wneud hynny. Yr hyn nad ydym yn sicr yn ei gylch yw beth yw'r cynigion hyn, ac mae angen inni fod yn dylanwadu arnynt.

Yn eich barn chi, beth y gall prosiectau ei wneud i sicrhau y gallwn ddangos bod angen cyllid yn y dyfodol?

Cyflawnwch, gwariwch yr arian yn ddoeth, a dangoswch werth mewnbwn y trydydd sector. Rhaid inni dynnu sylw'r cyhoedd at yr effaith gadarnhaol y mae cyllid Ewropeaidd wedi'i chael ar fywydau unigolion. Dylai sefydliadau gymryd rhan mewn sgyrsiau a thrafodaethau lleol i ganfod yr hyn [y maent] yn ei gynnig. Mae angen inni lobïo'n ddyfal i sicrhau nad ydym ar ein colled.

Beth sy'n debygol o ddigwydd i'n gallu i ddefnyddio rhaglen LIFE?

Bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau ynghylch a fydd y DU, ar ôl Brexit, yn cyfrannu arian at y mathau hyn o raglenni neu beidio. Yn sicr, mae dealltwriaeth fod pobl yn Llywodraeth y DU yn dymuno cadw'r gallu i ddefnyddio rhai o'r rhaglenni hyn ac mae'n ymddangos bod parodrwydd i fuddsoddi ynddynt. Gall ddigwydd fel rhan o broses Llywodraeth y DU o gytuno ar telerau er mwyn sicrhau cytundebau masnach a'r pethau yr hoffai eu cael.

A oes gennych unrhyw syniad a fydd proses Brexit yn effeithio ar achosion yn Llys Cyfiawnder Ewrop, yn arbennig dros y ddwy flynedd nesaf? Er enghraifft, a yw'n debygol o gyflymu hynt achos byw er mwyn ei ddatrys cyn 2019?

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd Llys Cyfiawnder Ewrop ag awdurdod dros y DU ar ôl Brexit. Fodd bynnag, bydd ei ddyfarniadau hanesyddol yr un mor bwysig â rhai'r Goruchaf Lys Prydeinig, gan olygu y byddant yn parhau'n rhan o'r gyfraith Brydeinig nes bod awydd i'w newid.

Dylai unrhyw gyllid sy'n dod yn ôl i Gymru ar ôl Brexit gael ei ddosbarthu ledled y wlad ac ni ddylai fod rhaniad rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin - bu gormod o wahanu a diffyg gwybodaeth a rennir mewn llawer o raglenni.

Rhaniad gwneud yw'r rhaniad rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin, a ddyluniwyd er mwyn i Gymru fod yn gymwys ar gyfer Amcan 1 yn 2000. Mae'r Comisiwn yn ystyried bod y rhaniad rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yn adlewyrchu dwy ardal gydlynol yn economaidd, er nad yw hynny'n wir. I'r dyfodol, dylai polisi rhanbarthol newydd fod yn bolisi Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn eisoes am ddatblygu strategaeth gyflogadwyedd Cymru gyfan, ac felly mae'n debyg iawn y bydd y rhaniad rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yn cael ei ddileu pan fyddwn yn gadael yr UE.

Cymorth Gwladwriaethol yr UE neu Sefydliad Masnach y Byd (WTO): pa un sydd orau i'r trydydd sector?

Mae'n debyg y bydd amodau Sefydliad Masnach y Byd yn gosod y DU mewn maes gwbl wahanol am rai blynyddoedd, a all fod yn niweidiol i'r economi.

Os oes arnom eisiau cytundebau masnach, mae'n debyg iawn y bydd yn rhaid inni dderbyn rhyw fath o gymorth gwladwriaethol.

O ran contractau mawr y sector cyhoeddus a chaffael, beth fydd yn digwydd i Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), yn eich barn chi,  pan fydd y DU yn gadael yr UE?

Mae'n debyg iawn y bydd hynny'n dibynnu ar y cytundeb masnach yr ydym yn ei bennu â'r UE. Os ydym yn dymuno parhau i fasnachu ar y lefel sydd gennym ar hyn o bryd, dim cyfyngiadau ar allforion a mewnforion, bydd yn rhaid inni gydymffurfio mewn rhyw ffordd â Chymorth Gwladwriaethol, Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y blaen.

A fydd y cysylltiadau â rhwydweithiau sector gwirfoddol yr UE yn parhau?

Byddant, os dyna fydd ein dymuniad. Nid yw'n creu budd i sefydliadau y tu allan i'r Comisiwn, hynny yw, sefydliadau'r trydydd sector neu brifysgolion neu golegau, dorri cyswllt ag unrhyw un o sefydliadau'r DU. Os byddwn yn cytuno, fel rhan o'r trafodaethau, i ariannu rhaglenni trawswladol penodol ar ôl Brexit, bydd y cysylltiadau hyn yn parhau.

 

Nesaf