Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), neu'r 'Ddeddf', yn darparu'r fframwaith cyfreithiol i wella llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac i drawsnewid y ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu yn awr ac, yn bwysicach, yn y dyfodol yng Nghymru.

hub logo w

Bydd y Ddeddf yn trawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau cymdeithasol. Bydd yn:

  • hybu integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol,
  • annog pobl i fod yn annibynnol er mwyn rhoi llais a rheolaeth gryfach iddynt dros eu bywydau,
  • rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa gymorth maent ei angen,
  • hyrwyddo gwasanaethau cyson, o safon ar hyd a lled y wlad.

Gall mudiadau trydydd sector chwarae eu rhan yn helpu i roi'r Ddeddf ar waith drwy wneud eu canlyniadau yn gydnaws ag egwyddorion craidd y Ddeddf.

 

Y Ddeddf

Mae'r ddogfen Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014: Gwybodaeth Hanfodol yn ddefnyddiol gan ei bod yn nodi nodweddion allweddol y Ddeddf. 

Nod egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw cynorthwyo pob darparwr gwasanaethau gofal cymdeithasol i gynnal eu gwasanaethau. 

  • Llais a rheolaeth:Rhoi'r oedolyn neu'r plentyn unigol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl, wrth wraidd eu gofal a'u cymorth. Dylid rhoi rheolaeth iddynt er mwyn cyrraedd y canlyniadau sy'n eu helpu i greu llesiant ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae llawer o fudiadau trydydd sector eisoes yn gweithredu yn y modd hwn neu'n darparu eiriolaeth mewn ffurfiau amrywiol.
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar: Cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned er mwyn atal anghenion rhag tyfu.
  • Cydgynhyrchu:Annog unigolion i gymryd mwy o ran mewn cynllunio a darparu gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Mae llawer o fudiadau trydydd sector eisoes yn gweithio yn y ffordd hon, a gall mwy o ddarparwyr ddysgu oddi wrth eu harbenigedd. 
  • Amlasiantaeth:Gwaith cryf ar y cyd rhwng yr holl asiantaethau a mudiadau, gydag integreiddio yn allweddol i ysgogi newid.
  • Pobl:Mae plant, oedolion a gofalwyr, eu teuluoedd a chymunedau yn asedau toreithiog ac maent wrth wraidd y fframwaith gweithio. Mae siarad â phobl a gwrando arnynt yn allweddol i sicrhau llesiant a datgloi'r potensial i fod yn greadigol.
  • Llesiant: Cynorthwyo pobl i greu eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth. Mae 'Llesiant' yn derm eang sy'n berthnasol i sawl maes o fewn y Ddeddf ac mae'n cynnwys diogelu (atal cam-drin, niwed ac esgeuluso, a gwarchod pobl rhag y pethau hyn), ond mae hefyd yn golygu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolyn.

Mae'r Ddeddf yn mynnu newid mewn diwylliant i helpu unigolion i gyflawni eu hamcanion o ran llesiant. Yn gyntaf drwy ofyn "beth sy'n bwysig i chi?" ac yn ail drwy wneud yn fawr o'u rhwydweithiau cymorth eu hunain a manteisio ar adnoddau cymunedol a gwirfoddol. Y nod yw symud y pwyslais i ffwrdd o ofal a chymorth hirdymor, ble bynnag y bo modd. Mae'r trydydd sector yn allweddol i gefnogi'r newid hwn mewn diwylliant.

 

RÔL Y TRYDYDD SECTOR

Mae'r Ddeddf yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer rôl gryfach i'r trydydd sector a mudiadau gwerth cymdeithasol wrth roi'r Ddeddf ar waith: 

Rhan 7

Rhan 9

Mae Rhan 9 o'r Ddeddf yn gosod trefniadau ar gyfer cydweithredu o dan y Ddeddf; gan annog cydweithio ar draws sectorau a chydweithio ag unigolion sydd angen gofal a chymorth. Mae Rhan 9 hefyd yn gosod dyletswydd i sefydlu saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, [SR2] gan gynnwys mudiadau trydydd sector o fewn yr aelodaeth. 

Mae Adran 16 (2) o'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys gwasanaethau i ofalwyr, a gwasanaethau ataliol a ddarperir gan fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, mudiadau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a mudiadau trydydd sector.

Mae adran 16(1) o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo'r ffordd y mae mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a mudiadau trydydd sector yn darparu gofal, cymorth a gwasanaethau ataliol yn eu hardal.

Bydd pob ardal leol a rhanbarthol yn cynhyrchu Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a Chynllun Ardal Lleol sy'n nodi blaenoriaethau lleol. Gall mudiadau trydydd sector wneud cyfraniad pwysig a fydd yn helpu i ganfod anghenion poblogaethau lleol drwy rannu'r hyn maent yn ei wybod am anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu, er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaethau newydd.

Mae gan y trydydd sector rôl i'w chwarae yn cyfeirio mudiadau ac unigolion at wybodaeth berthnasol iddyn nhw. Mae gwybodaeth benodol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ( http://gov.wales/topics/health/socialcare/act/?skip=1&lang=cy [s3] )yn ymwneud â phobl ifanc, gofalwyr, pobl hŷn a phobl anabl, gyda fersiwn hawdd ei ddarllen a chrynodeb o'r Ddeddf i bobl ifanc.

 

Datblygu Fforymau Gwerth Cymdeithasol Rhanbarthol

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf (Rhan 2) yn ei gwneud yn ofynnol bod saith Fforwm Gwerth Cymdeithasol Rhanbarthol yn cael eu sefydlu i ddod â mudiadau/darparwyr 'gwerth cymdeithasol' at ei gilydd, gan gynnwys y trydydd sector, i ddatblygu arfer da ac arloesedd a chynorthwyo'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni'r canlyniadau gorau posib i bobl sydd angen gofal a chymorth.

MaeCanolfan Cydweithredol Cymruwedi datblygu pecyn cymorth yn amlinellu'r prosesau tuag at ddatblygu modelau darparu gwerth cymdeithasol amgen fel rhan o Ran 9 o'r Ddeddf.

Rhan 7 Diogelu

Mae diogelu yn un o themâu cyffredinol y Ddeddf. Mae'r manylion ar gael yn Rhan 7. Mae'r Ddeddf yn atgyfnerthu trefniadau diogelu sydd eisoes yn bodoli ar gyfer plant drwy gyflwyno dyletswydd newydd ar bartneriaid statudol, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau sydd wedi'u comisiynu neu eu hariannu, i hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw'blentyn sy'n wynebu risg'.

Gellir ystyried bod plant yn 'wynebu risg' yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae ganddynt anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r rhain yn cael eu diwallu ai peidio) ac,
  • mae'n ymddangos eu bod yn wynebu risg o gael eu niweidio, eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae'r Ddeddf hefyd yn diffinio'oedolyn sy'n wynebu risg'. Rhaid i awdurdod lleol ymchwilio pan fydd yn credu bod oedolyn ac arno anghenion am ofal a chymorth yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Cyflwynir gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion i awdurdodi mynediad i fangre er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig i asesu a yw oedolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac, os felly, pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd. Rhoddir dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i hysbysu'r awdurdod lleol priodol pan fyddant yn credu y gallai pobl (oedolyn neu blentyn) fod yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r chwe Bwrdd Diogelu rhanbarthol roi i blant neu oedolion y mae swyddogaethau'r Bwrdd yn effeithio arnynt, neu y gallent effeithio arnynt, y cyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd. Mae'n bosib y bydd yna rôl yma ar gyfer mudiadau gwirfoddol neu gymunedol lleol i gefnogi hyn.

  • Ymysg swyddogaethau'r byrddau diogelu y mae: adolygu anghenion hyfforddiant personau sy'n gweithio i gyflawni amcanion y Bwrdd, a hyrwyddo darparu hyfforddiant addas iddyn nhw
  • trefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaeth.

Dylai'r ddau gyfle hyn ymestyn i gynnwys y trydydd sector

 

Astudiaeth achos: Hwb Cymorth Cynnar, Sir y Fflint

Astudiaeth achos: Gwasaneath Cydlynu Iechyd a Lleisiant Cymunedos Powys PAVO

 

Mynediad at Eiriolaeth a Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy

Mae Adran 181 yn dweud bod yn rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Mae rhwydd hynt i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o'i ddewis i'w gefnogi i gyfranogi'n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a'i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan gyfeillion, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach. Bydd gan rai unigolion hawl i wasanaeth eirioli ffurfiol, proffesiynol. 

Mae Adran 17 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy lleol a chyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â'r canlynol:

  • Sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu yn yr ardal awdurdod lleol.
  • Y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael.
  • Sut i gael mynediad at y gofal a'r cymorth sydd ar gael.
  • Sut i godi pryderon ynglŷn â llesiant person y mae'n ymddangos bod ganddo anghenion gofal a chymorth.

Rhaid i'r gwasanaeth hwn fod yn hygyrch i bawb.


Gwasanaethau gwybodaeth

Rhaid i awdurdodau lleol lunio cofrestri o bobl, gan gynnwys plant, sydd ag anableddau a nam ar eu synhwyrau a'r dull cyfathrebu sydd orau ganddynt, er mwyn sicrhau darpariaeth i gyflawni eu hamcanion llesiant a'u gofynion.

Cronfa ddata o wasanaethau trydydd sector a chymunedol yw Infoengine a all helpu i gefnogi pobl yn eu bywydau bob dydd a'u hanghenion cymorth. Gwefan i chwilio am wasanaethau cymunedol yw Dewis gyda gwybodaeth am wasanaethau'r sector cyhoeddus yn yr ardal leol. Y bwriad yw creu dolen rhwng Dewis ac Infoengine i sicrhau bod defnyddwyr y ddwy system yn cael y wybodaeth gywir.

 

ADNODDAU ERAILL

  • Mae gwybodaeth ac adnoddau ynglŷn â'r Ddeddf ar gael ar yr Hwb, a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Mae gwybodaeth ynglŷn â chydgynhyrchu yng Nghymru ar gael ar wefan Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ble ceir astudiaethau achos a gwybodaeth ynglŷn â beth yn union yw cydgynhyrchu.
  • Mae prosiect Gofal Cydweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut i sefydlu model newydd megis Cwmni Cydweithredol neu Gwmni Buddiannau Cymunedol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  • Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn wefan ddefnyddiol i unrhyw un sydd am sefydlu menter newydd neu weithredu fel busnes cymdeithasol. Mae adnoddau amrywiol o sut i strwythuro busnes cymdeithasol i ddatblygu cynllun busnes ar gael, gan gynnwys templedi.