Mae mudiadau a grwpiau ledled Cymru eisoes yn helpu cymunedau i weithredu a bod yn barod i ddygymod ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd mewn meysydd amrywiol.

Y newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd. Nid problem amgylcheddol yn unig mohoni: mae yna oblygiadau ar gyfer llesiant pobl yma yng Nghymru, ac o amgylch y byd i gyd. Bu dros 120 o drychinebau cysylltiedig â'r hinsawdd yn ystod 2015, yn ôl Banc y Byd, gan achosi difrod amgylcheddol ac economaidd enfawr a gadael effaith enbyd ar gymunedau.

Flooding
Mae'r effeithiau hyn hefyd wedi'u teimlo'n nes adref, er enghraifft, mwy o lifogydd, a amcangyfrifir eu bod wedi achosi dros £71 miliwn o ddifrod, gan effeithio ar gymunedau, yr economi, a seilwaith trafnidiaeth. Mae gan y trydydd sector botensial enfawr i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Mae mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogi pobl, yn arbennig y rhai sydd fwyaf dan anfantais ac sydd fwyaf agored i niwed.

Tackling Climate Change Guide (Welsh ) - Front Cover

Canllaw i'r Trydydd Sector ar Newid Hinsawdd

Gall newid hinsawdd ymddangos yn fater aruthrol neu bellennig sydd ddim yn cael llawer o ddylanwad ar eich gwaith bob dydd.


Serch hynny, gan ein bod ni i gyd yn rhannu'r un blaned ac adnoddau naturiol, mae gan hinsawdd sy'n newid y potensial i effeithio'n negyddol ar holl bobl a mudiadau'r byd a gall deall hyn ein helpu i baratoi a chynllunio'n well.


Nod y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o faterion yn ymwneud â'r hinsawdd ac o ble i gael cymorth pellach i'ch helpu i reoli'ch risgiau yn sgil yr hinsawdd a gwneud penderfyniadau gwell at newidiadau'r dyfodol


Adroddiad Hinsawdd

Adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU 2017
Mae adroddiad tystiolaeth annibynnol newydd i'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi gan yr Is-bwyllgor Ymaddasu i Newid Hinsawdd sy'n rhan o Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae'n nodi'r peryglon a'r cyfleoedd pennaf sy'n dod i'r amlwg i'r DU o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd er mwyn cyfrannu at yr asesiad nesaf o beryglon y newid yn yr hinsawdd i'r DU, a ddisgwylir fis Ionawr 2017. Ymysg y peryglon a nodwyd y mae peryglon llifogydd a newidiadau arfordirol i gymunedau, busnesau a seilwaith, risgiau i gynhyrchu a masnachu bwyd yn ddomestig ac yn rhyngwladol a risgiau plâu a chlefydau newydd. Ceir wyth pennod unigol yn yr adroddiad tystiolaeth, ac fe'i hysgrifennwyd gan awduron arweiniol arbenigol gyda chymorth cydawduron sydd ag arbenigedd penodol. Mae crynodeb o'r canfyddiadau a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y 5 mlynedd hefyd ar gael.

Mean Temperatures UK
Adroddiad ar gyflwr hinsawdd Prydain 2016
Mae 3ydd adroddiad blynyddol y Swyddfa Dywydd ar gyflwr hinsawdd Prydain yn dangos mai 2016 oedd y drydedd flwyddyn gynhesaf ar ddeg (mae'r cofnodion yn dyddio'n ôl i 1910). Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o dywydd a hinsawdd Prydain yn ystod blwyddyn galendr 2016. Y Swyddfa Dywydd sy'n cynhyrchu'r adroddiad blynyddol, 'State of the UK climate', a dyma'r trydydd un. Mae'n darparu asesiad hygyrch, awdurdodol a chyfoes o dueddiadau, amrywiadau ac eithafoedd hinsawdd Prydain yn seiliedig ar y setiau data diweddaraf ynglŷn ag ansawdd yr hinsawdd.

Adroddiad ar gyflwr yr hinsawdd 2015
Mae'r adroddiad eleni yn canolbwyntio ar ecosystemau; mewn sawl pennod ceir bar ochr pwrpasol ar y berthynas gymhleth rhwng hinsawdd sy'n newid a'i heffaith ar systemau byw. Mae'r syniad hwn o gysylltioldeb - rhwng yr hinsawdd, tirwedd a bywyd; rhwng ein gwaith bob dydd a'r mynegiant o'i ystyr; rhwng dylanwadau ar raddfa blanedol a phethau byw cyffredin; rhwng echdyniad a manwl gywirdeb data a gwirionedd a chymhlethdod eu pwysigrwydd; ac yn enwedig rhwng un genhedlaeth a'r un nesaf - yn ysbrydoli ac yn llywio llawer o'r gwaith yn y gyfrol hon.

 

Cymryd Rhan!

Caru Bwyd Casáu Gwastraff
Mae ymgyrch  Caru Bwyd Casáu Gwastraff yn amlygu'r effaith negyddol ar yr amgylchedd  a achosir gan orgynhyrchu a gwastraffu bwyd - yn enwedig os yw'n mynd i safle tirlenwi yn y diwedd. Yn y Deyrnas Unedig, rydym yn taflu 7 miliwn tunnell o fwyd a diod o'n cartrefi bob blwyddyn, a gellid bod wedi bwyta'r rhan fwyaf o hyn.
 LFHW_CMYK

Pe baem yn peidio â gwastraffu bwyd, byddai'n arbed cyfwerth ag o leiaf 17 miliwn tunnell o garbon deuocsid, sy'n rhoi'r un budd positif â chymryd 1 o bob 4 car oddi ar ein ffyrdd. Byddai hefyd yn arbed £60 y mis i bob cartref ar gyfartaledd a gellid ei ddefnyddio i drechu tlodi bwyd. Mae gan wefan ymgyrch  Caru Bwyd Casáu Gwastraff gyngor i unigolion sydd am osgoi gwastraffu bwyd a hefyd sesiynau hyfforddi am ddim sy'n rhoi cyngor ar brynu, storio a defnyddio bwyd.


 

FareShare Cymru
Fareshare -case -study
Mae FareShare Cymru yn ymdrechu i drechu tlodi bwyd drwy fynd i'r afael â gwastraff bwyd. Mae'n cymryd bwyd bwytadwy dros ben oddi ar y diwydiant bwyd a diod a fyddai fel arall wedi'i daflu ac yn ei ailddosbarthu i fudiadau yng Nghymru sy'n bwydo pobl mewn angen. Mae hyn yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol. Amcangyfrifir bod yna 200,000 o bobl mewn tlodi bwyd yng Nghymru. Os ydych yn elusen neu'n grŵp cymunedol sy'n helpu i roi bwyd i bobl mewn angen, gallwch ymgeisio i fod yn aelod o Gymuned Fareshare a chael cyflenwadau o fwyd dros ben.