Mae dros filiwn o bobl yng Nghymru yn helpu eu cymunedau a'i gilydd mewn pob math o ffyrdd nodedig. Ac ers 2004 mae Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru wedi bod yn tynnu sylw at y bobl arbennig hyn.

Group photo

Enillwyr Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2017 yn y seremoni wobrwyo yn Cornerstone, Caerdydd
 

Ydych chi'n adnabod unigolyn neu grŵp ysbrydoledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'ch ardal neu i fywydau pobl eraill? Os felly, pam na wnewch chi eu henwebu ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru? Dyma'ch cyfle chi i helpu'r pobl hynod yna i gael y wobr y maent yn eu haeddu.

Mae 'na chwe chategori o enwebiadau: 

- oedolyn (25 oed i fyny)
- gwirfoddolwr ifanc (o dan 25 oed)
- gwirfoddolwr 'gwyrdd' (unrhyw unigolyn sy'n gwirfoddoli gyda mudiad neu brosiect amgylcheddol)
- ymddiriedolwr
- grwpiau (dau neu fwy o unigolion, naill ai fel grŵp anffurfiol neu fudiad â chyfansoddiad ffurfiol)
- Gwirfoddolwr 'digidol' (unigolyn sydd wedi helpu i fynd i'r afael ag allgáu digidol ac wedi helpu pobl eraill i brofi'r manteision o ddefnyddio TGCh) cefnogir gan Cymunedau Digidol Cymru - CATEGORI NEWYDD!

Mae'r gwobrau yn awr ar gau am enwebiadau, ond byddant yn dychwelyd yn 2018.

 

Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru 2017

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am enillwyr ysbrydoledig gwobrau 2016 isod wedi ei trefnu fesul categori. Cafodd y gwobrau i'w cyflwyno gan is-lywydd WCVA, Tom Jones mewn seremoni yn Cornerstone, Caerdydd.

Categori Oedolion

ENILLYDD                   

Sarah Hayward (Abertawe)

Sarah Hayward

Ar ôl mynd ati ar ei liwt ei hun i sefydlu Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe dros 20 mlynedd yn ôl i gyflwyno pobl ifanc i'r gamp, mae Sarah Hayward ers hynny wedi hyfforddi ieuenctid at safon Henley Regatta.

A hithau ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau hyfforddi ychwanegol gyda'r rhwng 40 a 50 o ddechreuwyr a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd, mae Sarah hefyd yn cystadlu ei hun - ar ben swydd lawn amser ac ymrwymiadau teuluol.

Nid oes gan y clwb y cyfleusterau sylfaenol y mae eraill yn eu mwynhau - pâr o gynhwysyddion yw'r 'tŷ clwb', rhesel sgaffaldiau mewn maes parcio cyhoeddus yw'r storfa gychod, ac mae'r toiledau yn yr archfarchnad neu'r clwb hwylio gerllaw.

'Ei nod wrth sefydlu'r clwb oedd rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddarganfod rhwyfo, ac mae hyn wedi tyfu i groesawu pobl o bob oed a gallu, gan gynnwys Rhwyfo Addasedig,' meddai un o aelodau'r clwb, Dr Dawn Brace.

'Er gwaetha'r ffaith nad oes yna ystafell newid, lle i gymdeithasu, bwrdd gwyn i fynd dros gynlluniau na champfa, mae hi'n cynnal ysbryd y clwb, yn creu awyrgylch a brwdfrydedd penigamp ac yn ysgogi dyhead i gystadlu,' ychwanegodd.

'Dydw i erioed wedi cwrdd â neb fel hi.  Does neb yn haeddu cydnabyddiaeth yn fwy - mae hi'n anhygoel.  Heb Sarah, ni fyddai Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe yn bodoli.'

AIL                 

Nick Cann (Cas-gwent)

Mae Nick Cann, a oroesodd strôc, wedi gweithio'n ddiflino i helpu eraill sydd wedi cael strôc i adfer eu gallu i gyfathrebu.

Ar ôl methu â siarad am gyfnod sylweddol, mae'r gŵr 54 oed o Gas-gwent yn arwain 'caffi affasia' Mae affasia yn anhwylder iaith a chyfathrebu cymhleth sy'n deillio o niwed i'r canolfannau iaith yn yr ymennydd. Er nad yr unig achos o affasia yw strôc, mae o bell ffordd yr achos mwyaf.

'Roedd Nick yn dal i weithio pan gafodd ei strôc a chafodd ei fyd i gyd ei droi ben i waered,' meddai Lauren Heath, Cydlynydd Prosiect Phoenix y Gymdeithas Strôc, sydd hefyd yn un o'r rheolwyr gwirfoddolwyr.

'Bryd hynny, cyfyngedig oedd y gwasanaethau strôc yn Sir Fynwy felly aeth Nick, ynghyd â'i deulu, ati i godi arian i helpu i sefydlu rhagor o bethau yn yr ardal i gefnogi goroeswyr ifanc strôc yn y dyfodol,' ychwanegodd.

Canlyniad hyn oedd Prosiect Phoenix, sy'n mynd ati i helpu goroeswyr ifanc strôc i ddychwelyd i'w gwaith, a chynnig cymorth mwy hirdymor i bobl ledled y sir.

Yn y caffi, mae Nick yn helpu pobl i ddefnyddio apiau iPad fel ffordd o wella eu lleferydd, darllen, ysgrifennu, deall a ffurfio brawddegau.

'Mae Nick yn gweithio'n ddiflino i roi strôc ar y map a hyrwyddo ymwybyddiaeth,' meddai Lauren Heath.  'Ond yn fwy na dim, mae'n cynnig gobaith ac ysbrydoliaeth i aelodau o'r caffi affasia.  Mae rhai o'r rhain yn dechrau ar eu taith gan allu dweud ie neu na yn unig ac yn methu â gweld y golau ym mhen draw'r twnel.  Iddyn nhw, mae e'n arwr ac yn seren.'

Jacqueline Corr (Abergele)

Mae Jackie Corr wedi bod yn gwirfoddoli gyda gwasanaethau Cymorth i Fenywod Cymru yn y Gogledd ac wedi helpu i sefydlu grŵp anffurfiol i fenywod gefnogi ei gilydd ym Mae Colwyn.  Mae hi hefyd wedi helpu i chwalu'r mythau ynglŷn ag ar bwy y mae cam-drin yn effeithio.

Mae Jackie ei hun wedi goroesi cam-drin domestig ar ôl gadael priodas gamdriniol yr oedd wedi bod ynddi ers dros 40 mlynedd, pan oedd hi'n 64.  Gallai materion i fenywod hŷn fod yn wahanol i'r rheini sy'n effeithio ar oroeswyr eraill hefyd.

Cafodd Jackie ei chefnogi gan Cymorth i Ferched Cymru, drwy eiriolaeth gymunedol i sicrhau ei bod yn ddiogel a bod ei hanghenion unigolyn yn cael eu hateb.  Dywedodd ei henwebydd Claire Thomas o Cymorth i Ferched Bae Colwyn: 'Doedd gynnon ni ddim syniad y byddai Jackie ymhen dim yn cefnogi ein mudiad, ac eraill, i wella bywydau menywod o amgylch Cymru y mae cam-drin wedi effeithio arnynt.

'Nid yw'n hawdd siarad yn gyhoeddus ag eraill ynglŷn â phrofiadau personol a thrawmatig.  Serch hynny, mae Jackie yn sylweddoli pŵer ac arwyddocâd lleisiau goroeswyr i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin domestig, ac i ddarparu gwasanaethau priodol.'

Mae Jackie wedi helpu i drefnu diwrnodau i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig mewn coleg lleol, ar ôl cael ei hysbrydoli gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn a Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod, a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.  Mae hi wedi cymryd rhan mewn fideos hyfforddi, lansiad Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, yn ogystal â sicrhau bod ymatebion i fenywod hŷn yng Nghymru yn cael eu gwella a bod eu hanghenion penodol yn cael eu hateb.

'Mae cyfraniadau gwirfoddolwyr fel Jackie yn hanfodol bwysig; mae hi'n ysbrydoliaeth i bawb a dwi'n teimlo y dylid ei chydnabod am ei dewrder, ei chryfder, a'i hymroddiad i bob menyw yng Nghymru y mae cam-drin wedi effeithio arnynt', meddai Claire Thomas.

Phyllis Tomlinson (Y Rhyl)

Mae gwaith gwirfoddol y cyn-nyrs ardal 'nodedig' Phyllis Tomlinson yn helpu i wneud triniaeth frys yn yr ysbyty yn llai trawmatig i gleifion a'u teuluoedd.

Nid yn unig y mae'r wraig 85 mlynedd oed o'r Rhyl yn Wirfoddolwr Ward Robin yn gwneud ffrindiau â chleifion a'u teuluoedd, sy'n aml mewn gofid, mae hi hefyd wedi troi darn o dir diffaith y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn ardd, 'llecyn bendigedig i fyfyrio neu gofio'.

Yn ei rôl yn yr ysbyty mae Phyl, fel y mae pawb yn ei galw, yn darparu lluniaeth i gleifion, yn rhoi gwybod iddynt am amseroedd aros ac yn rhoi'r diweddaraf iddynt, ac yn siarad â chleifion ac yn eu cysuro os nad oes ganddynt neb gyda nhw.

'Mae dod i'r ysbyty yn gallu bod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig os yw'n annisgwyl,' meddai Pauline Strugnell, sy'n cefnogi'r gwirfoddolwyr ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

'Gall treulio amser yn yr adran frys yn aros i gael eich gweld neu'n aros i glywed am berthynas neu anwylyd achosi cryn dipyn o ofid.  Efallai fod gwybod bod yna wyneb cyfeillgar i ddal eich llaw a rhoi diod i chi a chysur pan fo'i angen yn ymddangos fel rhywbeth bach - ond mae'n cael effaith enfawr ar rywun sy'n gofidio ac yn poeni,' ychwanegodd Pauline. 

'Mae Phyl yn gofalu am y gerddi yng Nghastell Bodelwyddan ac wedi bod yn gwneud hyn ers tipyn o amser, yn trawsnewid ardaloedd anghofiedig a dod â bywyd newydd gyda lliw i welyau presennol. Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o'r WRNS lleol (WRENS - Women's Royal Navy Service) ac yn mynychu digwyddiadau  coffa a milwrol, gorymdaith Sul y cofio a digwyddiadau milwrol eraill.

'Mae Phyl yn llwyr gwmpasu ystyr gwirfoddolwr, mae hi'n rhoi heb ddisgwyl dim yn ôl.  A hithau â natur radlon a chyfoeth o wybodaeth, mae'r cyhoedd a staff yn aml yn mynd i chwilio am Phyl i gael cyngor ar ofalu am blanhigion neu i rannu toriadau o blanhigion, y mae Phyl yn eu rhannu'n hael o'i chasgliad ei hun gartref neu o'r ardd. Mae Phyl yn ddynes wirioneddol nodedig a braint yw ei hadnabod.'

Gwirfoddolwr ifanc

ENILLYDD

James Wilkinson (Caerdydd)

James Wilkinson

Mewn llai na blwyddyn fel gwirfoddolwr gyda The Big Issue Cymru, mae James Wilkinson wedi dod yn rhan annatod o'r tîm dosbarthu, gan ddarparu cymorth hanfodol a rheolaidd i werthwyr Big Issue ar strydoedd Caerdydd.

Mae'r gŵr 24 mlwydd oed yn ymroi tridiau llawn o'i wythnos i gydlynu'r tîm gwirfoddoli a sicrhau bod gan werthwyr fynediad cyson at gylchgronau, gan ddangos 'wyneb cyfeillgar a chyfarwydd iddynt yn ystod eu diwrnod, a chynnig rhywun i siarad â nhw pan maent mor aml yn cael eu hanwybyddu wrth fod allan yn gwerthu'.

'Mae digartrefedd ar gynnydd ledled Prydain a bu cynnydd sylweddol ledled Cymru mewn cysgu ar y stryd yn y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig yng Nghaerdydd,' meddai arweinydd tîm James yn Big Issue Beth Thomas.  'Mae James yn rhan hanfodol o'r tîm gan roi cymorth i'r rheini mewn angen.  Nid yn unig y mae e'n cefnogi gwerthwyr Big Issue, mae e' hefyd yn cefnogi pobl ddigartref ar y stryd drwy ddweud wrthym am y cyfle sydd ar gael iddynt i werthu'r Big Issue ac ennill incwm dilys.'

Er mai dim ond ers mis Medi 2016 y mae James wedi bod yn wirfoddolwr, mae e' wedi ennyn parch y gwerthwyr a gwirfoddolwyr eraill, a rhoddodd araith yn ddiweddar ar y Big Issue, digartrefedd a menter gymdeithasol gerbron dosbarth o fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

'Yn fwy na dim fodd bynnag, mae James yn nodedig ac yn ysbrydoliaeth go iawn,' ychwanegodd Beth Thomas. 

AIL

Nerys Harries (Coed-duon)

Mae Nerys Harries wedi mynychu dros 120 o ddigwyddiadau brys '999' wrth wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - tra'n gwneud dim llai na thair swydd ran amser.

Ers cymhwyso'n Ymatebydd Cyntaf Cymunedol yn Nhîm Bargoed yn 2014 pan oedd hi'n 19, mae Nerys sy'n byw yng Nghoed-duon wedi gwneud cyfanswm o 374 o oriau o ddyletswydd ar alwad.  Mae hi hefyd wedi cyflawni adfywiad cardio-pwlmonaidd (CPR) ar ddau achlysur, gyda chanlyniad llwyddiannus y ddau dro.

'Yn ystod ei sifft wirfoddoli gyntaf, gwelodd bethau anodd iawn gan gynnwys marwolaeth tri chlaf, trawiad ar y galon, plentyn pedair oed yn disgyn i lawr y grisiau a strôc,' meddai Bev Boulton o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO).

'Er gwaetha'r sifft gyntaf honno, a oedd yn heriol iawn yn emosiynol, aeth hi'n ôl yr wythnos wedyn i barhau i wirfoddoli a darparu gwasanaeth i'r gymuned.'

Mae Nerys hefyd yn rheoli Diffibriliwr Cymunedol Maesycwmer - y sicrhaodd hi'r cyllid ar ei gyfer - a than yn ddiweddar roedd yn arweinydd Browni, ond bu'n rhaid iddi roi'r gorau i hynny oherwydd ymrwymiadau gwaith fel cynorthwyydd clwb brecwast ysgol, cynorthwyydd Meithrin Cofleidiol a chynorthwyydd ar ôl ysgol.  Ei gobaith yn y pen draw yw cymhwyso'n barafeddyg.

'Mae Nerys yn mynd ati, drwy ei gwaith a'i gwirfoddoli, i gefnogi'r gymuned gyfan yng Nghaerffili, yr ifanc a'r hen,' ychwanegodd Bev Boulton.

'Mae hi'n ysbrydoliaeth i'w chenhedlaeth, ac i ni gyd, gan ei bod yn barod i fynd yr ail filltir i lwyddo a helpu unrhyw un a phawb y daw hi i gysylltiad â nhw.'

Bethan Greig (Abertawe)

A hithau ond yn 12, Bethan Greig nid yn unig yw gwirfoddolwr ieuengaf Cynllun Chwarae Treforys, ond hi hefyd yw un o'r rhai mwyaf diwyd a llwyddiannus.

Mae'r elusen yn darparu sesiynau chwarae am ddim i blant a phobl ifanc mewn ardal sydd wedi'i dynodi'n un o amddifadedd, ac mae Bethan yn helpu i gynnal gemau a gweithgareddau yn ogystal â mentora gwirfoddolwyr newydd sy'n aml yn hŷn na hi.

'Bethan yw ein gwirfoddolwr ieuengaf, ond hi hefyd yw un o'r rhai gorau sydd gennym - bob amser yn gwenu, yn gweithio'n galed, ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu,' meddai Nick Moule, ei rheolwr llinell yng Nghynllun Chwarae Treforys.

'Mae hi'n aelod allweddol o'r tîm, mae staff, plant a rhieni i gyd yn hoff iawn ohoni ac yn ei pharchu, ac mae'n wych gweld y cynnydd y mae hi wedi'i wneud.  Mae Bethan yn llwyr haeddu'r wobr hon achos mae hi wedi gorfod gweithio'n eithriadol o galed i ddod yn hyderus ac yn agored fel y mae hi nawr.'

Dywedodd Mr Moule fod Bethan wedi cael profiad trawmatig cyn dechrau gwirfoddoli, gan ei gwneud yn swil, yn dawedog ac yn ddihyder.

'Mae datblygiad a chynnydd y fenyw ifanc hon dros yr 16 mis diwethaf yn anhygoel, ac mae hi'n ysbrydoliaeth i'n gwirfoddolwyr eraill a phobl ifanc eraill,' ychwanegodd.  'Mae ei hagwedd benderfynol i beidio â gadael i'r trawma a gafodd ei thristáu, a'i hagwedd bositif at bopeth y mae'n ei wneud, yn golygu ei bod yn llwyr haeddu'r wobr.'

Thomas Jones (Bangor)

Mae'r gwirfoddoli y mae Thomas Jones yn ei wneud yn rhoi budd i'w amgylchedd lleol, Eglwys Gadeiriol Bangor a phobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi.

Mae'r myfyriwr Seicoleg, 21 mlwydd oed, o Brifysgol Bangor yn cynnal 'Y Rhoi Mawr', prosiect sy'n casglu bwyd a adewir ar ôl gan fyfyrwyr dros y gwyliau academaidd ac yn ei roi i elusennau lleol - haf diwethaf, casglodd gwirfoddolwyr 1040kg o fwyd ar gyfer banc bwyd yr Eglwys Gadeiriol, gan ddarparu tridiau o gyflenwad brys i drigolion.

'Cyn cyfraniad Y Rhoi Mawr, roedd yn rhaid i'r Eglwys brynu bwyd yn rheolaidd o'r archfarchnad leol gan nad oedd yn cael digon o roddion gan y gymuned,' meddai Gareth Williams Cydlynydd Gwirfoddoli ym Mhrifysgol Bangor.  'Ar ddiwedd y prosiect, roedd gan yr Eglwys ddigon o fwyd i bara tan y Nadolig, gan arbed llawer iawn o arian.'

Dechreuodd Tom wirfoddoli gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB), fel Arweinydd Prosiect y Te Parti, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.  Mae GMB wedi bod yn trefnu'r Te Parti ers 1952 i roi'r cyfle i drigolion lleol hŷn gymdeithasu â'i gilydd a gwirfoddolwyr y brifysgol.

Mae Tom yn aelod o Grŵp Gweithredu Myfyrwyr ar Gynaliadwyedd, sy'n gweithio'n agos gyda staff yr undeb myfyrwyr ac Adran Cynaliadwyedd y brifysgol i ddatblygu prosiectau - megis plannu coed - gan wneud y ddinas a'r ardaloedd o'i chwmpas yn fwy cynaliadwy a hardd.

Mae e' hefyd yn Arweinydd Prosiect yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd, gan drefnu i wirfoddolwyr wneud ffrindiau â chleifion a'u cefnogi ddwywaith yr wythnos.

'Mae Tom bob amser wedi bod yn gaffaeliad i GMB, a gellir dibynnu arno bob tro pan fo angen gwirfoddolwyr ar y munud olaf, ni waeth beth yw'r prosiect,' ychwanegodd Gareth Williams.  'Mae ei agwedd bositif bob amser yn amlwg, ni waeth beth yw'r amser, y lle, na'r gwaith ac mae hynny'n cael ei drosglwyddo i'w gydwirfoddolwyr.'

Grŵp

ENILLYDD

Tîm Gwirfoddolwyr WRAP (Caerdydd)

WRAP volunteers

Mae tîm o wirfoddolwyr - gan gynnwys dau a fu yn y carchar ar ôl cael dedfryd oes - wedi atal cannoedd o bobl ifanc rhag troseddu drwy rannu eu profiadau eu hunain.

Mae gwirfoddolwyr WRAP (Wales Restorative Approaches Partnership) wedi'u hyfforddi fel 'ymarferwyr adferol' ac hyfforddwyr gan deithio ar hyd a lled y wlad yn codi ymwybyddiaeth o sgil effeithiau niwed ar ddioddefwyr a theuluoedd ac o realiti carchar, gan chwalu'r ddelwedd ddeniadol o droseddu.

Maent wedi bod yn fentoriaid i bobl ifanc mewn unedau cynhwysiant ysgolion ac mewn gweithgareddau yn y gymuned i ailgyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Maent hefyd wedi gweithio gyda rhieni sy'n ei chael yn anodd ymdopi ag ymddygiad niweidiol eu plant.

Roedd y ddau gyn-droseddwr, a gafodd ddedfryd oes, wedi bod yn y carchar am 22 mlynedd rhyngddynt ar ôl mynd i'r carchar pan oeddynt yn ifanc ar ôl cyflawni troseddau difrifol iawn.  Roeddynt hefyd wedi dioddef niwed a throseddau difrifol pan oeddynt yn blant cyn troseddu eu hunain.  Roeddynt yn fwy na pharod i rannu'r agwedd hon ar eu bywydau â phobl ifanc o gefndiroedd tebyg.  Maent yn aelodau brwd o'r Bwrdd Cyfarwyddwyr.

Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys Cyfarwyddwr y Bwrdd Ted Shiress, dyn sydd â gradd iaith a chyfathrebu a comedïwr stand-yp, sydd â pharlys yr ymennydd ac yn defnyddio cadair olwyn.  Mae ei sgiliau cyfathrebu 'rhagorol' a'i brofiadau personol yn galluogi adolygiad o hyfforddiant mwy hygyrch.  Mae Ted hefyd yn gwella proffil y grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol drwy negeseuon trydar a blogiau sy'n creu argraff.

'Mae'r gwirfoddolwyr yn griw eithriadol ac ysbrydoledig.  Mae ganddynt rinweddau amrywiol unigryw yn ogystal ag egni a brwdfrydedd,' meddai'r Ymgynghorydd Addysg ac enwebydd y grŵp, Ruth Smith.  'Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu parodrwydd i fod yn hollol agored a defnyddio eu heriau personol penodol yn hael er mwyn eu troi'n gryfderau ac yn asedau i ysbrydoli eraill i fynd ati i wneud gwaith adferol a newid er gwell.  Maent yn batrwm i eraill elwa ohono gan ddangos sut i fyw bywyd yn adferol.'

AIL        

Gwent Defibbers (Tredegar)

Mae grŵp cymorth ar gyfer goroeswyr ataliad ar y galon a'u teuluoedd wedi bod o gymorth 'aruthrol' yn helpu'r aelodau, dros 90 ohonynt, i ddod i delerau â byw gyda'r cyflwr.

Sefydlwyd grŵp 'Gwent Defibbers' yn 2009 gan Mike Morgan - a ddioddefodd ataliad ar y galon flynyddoedd lawer yn ôl - a Sandra Davies, y mae ei gŵr hithau'n oroeswr.

'Mae gan bobl sydd wedi cael ataliad ar y galon risg uchel o gael un arall a chynigir iddynt Ddiffibriliwr Cardiaidd Mewnblanadwy - dyfais yr un maint â blwch matsis a fewnblannir yn y frest gyda gwifren neu wifrau wedi'u mewnblannu i'r galon,' meddai Mandie Welch o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

'Gall y ddyfais hon achub eich bywyd drwy roi sioc drydanol yn uniongyrchol i'r galon, ond gall y siociau hyn fod yn boenus iawn, ac rydym yn gwybod y gall byw gyda'r ddyfais hon achosi gorbryder ac iselder.  Mae Gwent Defibbers wedi bod o gymorth aruthrol yn helpu eraill i ddod i delerau â byw gyda'u Diffibriliwr Cardiaidd Mewnblanadwy.' 

Mae'r grŵp yn cynnal cynllun cyfeillion, lle caiff cleifion y cyfle i drafod eu mewnblaniad Diffibriliwr Cardiaidd ag eraill sydd â'r ddyfais, ac maent hefyd wedi codi arian i gael diffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus.  Mae gan y grŵp wefan yn ogystal sy'n cynnig gwybodaeth gyfredol ynglŷn â phob agwedd ar fyw gyda Diffibriliwr Cardiaidd Mewnblanadwy.

'Gwneir hyn oll ar sail wirfoddol - mae'r gwaith o drefnu cyfarfodydd, lleoliadau a siaradwyr yn dasg enfawr, ond maent ill dau'n ei wneud er hynny,' ychwanegodd Mandie Welch.  'Yn ddiweddar cafodd Mike ddiagnosis o fethiant difrifol ar y galon, fel y cafodd Jeff gŵr Sandra, ac eto maent yn dal i roi cymorth cyson i eraill sydd ei angen.  Maent ill dau yn ysbrydoliaeth ac yn haeddu cydnabyddiaeth am eu cymorth cyson a'u gwaith caled.'

CHAaT (Trecelyn)

Mae criw o weithwyr sydd wedi ymddeol o'r Gwasanaeth Iechyd yn Nhrecelyn yn gwirfoddoli i sicrhau bod trigolion cartrefi gofal yn hapus ac yn cael gofal priodol.

Sefydlwyd CHAaT (Care Homes Ask and Talk) i gefnogi preswylwyr sydd efallai'n methu neu'n amharod i wneud awgrymiadau neu godi pryderon ynglŷn â safonau eu gofal.

Dechreuodd CHAaT gyda dim ond wyth gwirfoddolwr ond mae ganddynt bellach dros ugain.  Eu nod yw darganfod a yw preswylwyr yn fodlon yn yr amgylchedd maent yn byw ynddo a gweithredu ar unrhyw beth sydd angen ei newid.

'Maent yn benderfynol o wella safonau gofal i breswylwyr a darparu llais i bobl na all fynegi eu pryderon eu hunain,' meddai Liz Durlucia o Gartref Gofal Tŷ Bryn, Pont-y-pŵl.  'Maent yn herio pethau sydd o'u lle i ddefnyddwyr gwasanaethau, yn rhannu arfer da o gartrefi gofal eraill ac yn newid bywydau pobl.'

Mae'r rôl yn werthfawr nid yn unig i ddefnyddwyr gwasanaethau, ond hefyd i reolwyr y cartrefi gofal sy'n dweud bod canfyddiadau'r gwirfoddolwyr yn rhoi'r hyder iddynt newid gofal a gwthio ffiniau i roi'r bywyd mwyaf cyflawn posib i breswylwyr.

'Rwy'n sicr fod safonau gofal yn cael eu gyrru ymlaen er lles ein defnyddwyr gwasanaeth oherwydd y profiad sydd ganddynt,' ychwanegodd Liz Durlucia.  'Mae CHAaT wedi awgrymu i gartrefi sefydlu grwpiau cyfeillion i gynnwys preswylwyr, teuluoedd, staff ac aelodau o'r gymuned.  Mae hyn eto'n sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed.'

Gwirfoddolwr gwyrdd

ENILLWYR - Steve Hunt a Dave King

Aerial shot VotY

Steve Hunt (Y Barri)

Mae parc gwledig poblogaidd yn y De sydd â thros 120,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac sy'n agored 24 awr y dydd wedi cael ei gadw mewn cyflwr penigamp ers degawd gyda chymorth Steve Hunt.

Mae'r gŵr 70 mlwydd oed o'r Barri yn mynd ati'n wirfoddol i gynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth Parc Gwledig Porthceri, dros 100 hectar o goedwigoedd a dolydd mewn cwm cysgodol sy'n arwain at draeth cerrig mân a chlogwyni trawiadol.

Mae gan y parc hefyd lwybrau natur, llefydd i gael picnic, caffi, maes chwarae antur, llefydd i gael barbeciw a chwrs golff mini.  Mae'n cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i'r gymuned, a rhaglen addysg uchel ei pharch ar gyfer ysgolion lleol.

'Mae'r holl waith a gweithgareddau y mae Steve yn eu cynorthwyo bron yn ormod i'w rhestru,' meddai Ceidwad Safle Porthceri Mel Stewart.  'Mae e' wedi bod yn rhan o bron bob agwedd ar gynnal y parc - gweithgareddau cynnal a chadw fel codi pontydd, ardal decin newydd, mannau newydd i ysgolion archwilio pyllau dŵr a llwybr cerdded newydd; peintio meinciau, byrddau picnic ac adeiladau; adeiladu ffensys, camfeydd a giatiau - ac mae ei sgiliau clymu rhaffau yn chwedlonol!'

Mae Steve hefyd wedi cynorthwyo nifer enfawr o brosiectau cadwraeth fel clirio prysgoed, hel sbwriel, palu rhywogaethau goresgynnol allan, plannu coed a phrosiect peillio, pan helpodd i greu a gwella dolydd blodau gwyllt newydd ac adeiladu cwch gwenyn newydd.

'Mae Steve wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig a brwdfrydig yn y parc a byddai'n anodd dychmygu'r lle heb ei ymroddiad a'i sgiliau,' ychwanegodd Mel.  'Mae e'n llysgennad ardderchog i'r parc, bob amser yn siriol ac yn llawn hwyl, boed wrthi'n gwneud tasgau diflas bob dydd neu'n troi ei law at weithgareddau mwy celfydd.'

Dave King (Caerdydd)

Mae Dave King yn ymroi ei amser i bedair elusen - tair sy'n gwarchod yr amgylchedd yng Nghaerdydd a Chymru gyfan, yn ogystal â mudiad cymunedol sy'n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ymysg dynion hŷn, gan wella eu hiechyd meddwl drwy wneud gweithgareddau ymarferol.

Mae Dave yn ymddiriedolwr ac yn Drysorydd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus, gan helpu i sicrhau trefn lywodraethu dda yn y mudiad, a sicrhau bod y mudiad yn parhau i gyflawni ei nod a'i amcanion.

Ynghyd â 5 gwirfoddolwr arall ffurfiodd Dave Grŵp Afonydd Caerdydd yn 2009.  Prif ddiben Grŵp Afonydd Caerdydd yw cael gwared â sbwriel a llanast ac ati o ardaloedd o amgylch dyfrffyrdd, gan eu gwneud yn fwy atyniadol a diogel i aelodau o'r gymuned eu defnyddio a'u mwynhau, ac yn fwy diogel i fywyd gwyllt.  Ar ôl tyfu o'r 6 aelod gwreiddiol i restr ddosbarthu ac arni dros 400, dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, gwobr fawr ei bri, i'r grŵp yn 2015.

Gyda thrigolion lleol yn Grangetown sefydlodd Dave Cadw Grangetown yn Daclus, menter sydd wedi bod ar waith ers dwy flynedd a hanner i gael gwared â sbwriel yn Grangetown a cheisio gwneud y gymuned yn fwy ymwybodol o'r angen i ofalu am yr amgylchedd.  Mae pob un o'r tri mudiad yn cael effaith bositif uniongyrchol ar yr amgylchedd yng Nghymru a Chaerdydd.

Mae Dave hefyd wedi sefydlu Dusty Shed, menter gymdeithasol annibynnol sy'n rhan o fudiad Men's Shed, sy'n mynd ati i leihau arwahanrwydd cymdeithasol ymysg dynion hŷn.

'Mae un o'n haelodau wedi dweud wrthym fod yna bwrpas i'w fywyd unwaith eto, diolch i'r Shed,' meddai un o gydymddiriedolwyr Dusty Shed Alison Pritchard.

'Credaf fod Dave yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am yr holl amser ac ymroddiad y mae'n eu rhoi i'r mudiad hwn,' ychwanegodd.  'Ni fyddai'r Dusty Shed yn bodoli heb egni, brwdfrydedd ac agwedd benderfynol Dave i wireddu'r weledigaeth.  Rydym bellach, fwy neu lai, yn llawn o ran nifer y dynion y gallwn eu cefnogi mewn diwrnod ac rydym yn chwilio am rywle mwy i sicrhau y gallwn barhau i gefnogi dynion hŷn yng Nghaerdydd, ac i arweinyddiaeth Dave y mae'r diolch am hyn i gyd.'

Ymddiriedolwr

ENILLYDD

Phil Treseder

Phil Treseder (Abertawe)

Mae cyfraniad gwirfoddol Phil Treseder at YMCA Abertawe wedi bod yn 'hanfodol' i oroesiad y mudiad, gan helpu i'w droi o fod â phedwar aelod o staff a £150,000 o drosiant i fod yn cyflogi dros 25 aelod o staff a £1.4m o drosiant.

Yn ogystal â gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn Amgueddfa Abertawe, Phil yw Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolwyr YMCA ac mae'n treulio un diwrnod llawn yr wythnos yno yn gweithio ar geisiadau am gyllid ac yn cynllunio prosiectau newydd.  I wneud hyn, mae'n rhaid iddo weithio oriau ychwanegol yn achlysurol ar ei ddiwrnodau eraill yn yr amgueddfa.

'Mae ei arbenigedd mewn gwaith ieuenctid wedi dod i'r adwy sawl tro, ynghyd â'i wybodaeth o'r trydydd sector ac o'r ffordd y mae'n rhaid i ni frwydro i aros yn agored er lles y gymuned a'r grwpiau agored i niwed rydym yn eu cefnogi,' meddai un o'i gydweithwyr yn YMCA Abertawe Carlie Torlop.

Phil hefyd yw'r gyrrwr bws mini gwirfoddol ar gyfer teithiau pobl ifanc, mae e'n gofalu am adeilad y YMCA ac mae e' wrthi'n ysgrifennu cais am gyllid i adnewyddu'r adeilad rhestredig, sy'n 105 mlwydd oed, ac i ddathlu canmlwyddiant a hanner cangen YMCA Abertawe yn 2018.

'Mae YMCA Abertawe yn adeilad enfawr,' ychwanegodd Carlie.  'Pan ddechreuodd wirfoddoli yma, y cwbl oedd yn yr adeilad oedd campfa ac ambell i ddesg swyddfa.  Gwyddai Phil fod angen gwneud y gorau o'r adeilad cyfan er mwyn i'r mudiad oroesi.

'Mae e' wedi helpu i ddod o hyd i denantiaid a oedd yn fudiadau o'r un anian yr oedd angen amdanynt yn y gymuned - a bellach mae pob modfedd o'r adeilad yn cael ei defnyddio i helpu i weddnewid bywydau pobl.'

I gloi dywedodd Carlie: 'Mae gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd Phil yn y sector wedi bod yn dyngedfennol, oherwydd tra mae mudiadau trydydd sector yn ystod y cyfnod hwn wedi gorfod dod i ben a chau eu gwasanaethau i'r gymuned, gyda chymorth a dylanwad Phil mae YMCA Abertawe wedi sefyll yn gadarn a chyflawni llwyddiant ar ôl llwyddiant.'

AIL 

Kieran Vass (Caerdydd)

Mae'r gwirfoddolwr 'anhygoel' Kieran Vass wedi cyfrannu dros 400 awr o'i amser dros y flwyddyn ddiwethaf fel cadeirydd elusen myfyrwyr sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac o dan anfantais - tra hefyd yn dal swydd ac yn astudio ar gyfer gradd Meistr.

Mae'r gŵr 22 mlwydd oed yn ymddiriedolwr a newydd ei benodi'n Gadeirydd ar elusen Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd, sy'n cael ei harwain gan fyfyrwyr gan gynnal 27 o wahanol brosiectau yn y ddinas.  Ei nod yw darparu cymorth gwirfoddol i bobl agored i niwed yn y gymuned - oedolion â chyflyrau iechyd meddwl, pobl ddigartref a phlant ac oedolion gydag anableddau  - er mwyn cyfoethogi eu bywydau.

Mae eu gwaith yn helpu i chwalu'r delweddau negyddol cyffredin o fyfyrwyr gan hefyd ddatblygu perthynas bositif rhwng trigolion Caerdydd a'r boblogaeth myfyrwyr

'Fel Cadeirydd, mae rôl Kieran yn un sydd â chyfrifoldeb mawr, yn enwedig i rywun iau,' meddai un o'i gydweithwyr yn Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd Adrienne Earls.  'Mae e'n agored, yn gyfeillgar ac yn rhywun hawdd mynd ato, ac mae'n annog y rhinweddau hyn yn yr elusen drwyddi draw.

'Mae e' mor ymroddedig, brwdfrydig a dibynadwy, gan fynychu'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd a chyfleoedd gwirfoddoli unigol, gan hefyd drefnu ac arwain cyfarfodydd y bwrdd bob pythefnos.  Mae e' hefyd wedi gwirfoddoli gyda phobl ifanc sydd dan anfantais i'w helpu gyda'u datblygiad academaidd, wedi mentora a chefnogi gwirfoddolwyr newydd ac wedi ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

'Mae Kieran yn esiampl ardderchog i bawb yn Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd.  Mae'n anodd cyfleu mewn geiriau yr effaith y mae gwaith Kieran yn ei chael ar y gymuned.  Serch hynny, mae e'n sicrhau bod Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd yn gweithredu cymuned agored a theuluol, gan helpu'r holl wirfoddolwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.'

Gwirfoddolwyr Digidol

ENILLWYR - Gwirfoddolwyr Hybiau Cyngor Dinas Caerdydd a Sharon Palmer

Cardiff Council Hub Volunteers & Sharon Palmer

Gwirfoddolwyr Hybiau Cyngor Dinas Caerdydd

Mae tîm o wirfoddolwyr gan gynnwys pobl sydd wedi symud i Gaerdydd yn ddiweddar o wledydd tramor yn helpu newydd-ddyfodiaid eraill yn y ddinas - fel ffoaduriaid - i ymgartrefu a dod o hyd i waith.

Mae Gwirfoddolwyr Hybiau Cyngor Dinas Caerdydd hefyd yn helpu gwasanaethau'r awdurdod lleol i redeg yn fwy esmwyth drwy ymroi mwy o amser un wrth un i gwsmeriaid nag y gall staff cyflogedig oherwydd y nifer enfawr o ymwelwyr a geir.

Mae'r 12 hyb cymunedol ledled y ddinas yn dod â gwasanaethau'r cyngor ac asiantaethau eraill at ei gilydd o dan un to.  Mae'r gwirfoddolwyr yn cynorthwyo staff mewn Clybiau Gwaith a sesiynau Cynhwysiant Digidol gan helpu cleientiaid i chwilio am swyddi a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol; maent hefyd yn gweithio gyda thimau sy'n rhoi cyngor ariannol i helpu cleientiaid i lenwi ffurflenni budd-daliadau lles; maent yn gwirfoddoli yn y dderbynfa, gan groesawu cwsmeriaid ac ateb ymholiadau; ac maent yn cefnogi plant mewn clybiau gwaith cartref.

'Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol ac amlddiwylliannol,' meddai'r Cynghorydd Lynda Thorne, aelod cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd.  'Mae'r gwirfoddolwyr yn adlewyrchu'r amrywiaeth hon ac yn siarad cyfanswm o 18 o ieithoedd, gan allu cefnogi cwsmeriaid yn eu mamiaith.  Mae hyn yn gwneud i rai o'r bobl fwyaf bregus yn y gymuned deimlo'n gartrefol ar unwaith - yn enwedig y rheini sydd wedi gorfod ffoi o'u mamwlad a bellach yn ffoaduriaid yn y ddinas.

'Mae'r grŵp hwn yn un nodedig gan fod llawer ohonynt yn dod o gefndiroedd amrywiol o amgylch y byd.  Felly yn ogystal â bod mewn gwlad dramor maent hefyd yn dysgu am ddiwylliant ac iaith wahanol. Y rhwystrau cychwynnol hyn a all ei gwneud yn anodd integreiddio, ynghyd â'u dyhead i ddod o hyd i waith, oedd eu cymhelliant i wirfoddoli.'

Mae tîm Gwirfoddolwyr Hybiau Cyngor Dinas Caerdydd wedi bod yn gweithredu ers mis Ebrill 2014 ac mae 268 o wirfoddolwyr wedi eu recriwtio gyda bron i 5,000 o oriau gwirfoddoli wedi'u rhoi i'r gwasanaethau.   Ynghyd â magu hyder a sgiliau, mae 124 o wirfoddolwyr nawr mewn swyddi cyflogedig, sy'n dangos sut y gall gwirfoddoli helpu rhywun i ddod o hyd i waith.

Sharon Palmer (Abertawe)

Mae Sharon Palmer yn chwarae rhan hanfodol mewn cymuned sydd dan anfantais, gan helpu pobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, gwella eu sgiliau llythrennedd a goresgyn eu hofn o dechnoleg.

Roedd Sharon, sydd o Abertawe, yn arfer bod yn ddarlithydd sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd ac yn llyfrgellydd hyfforddedig, ac mae hi bob amser wedi mwynhau helpu pobl i wella eu siawns mewn bywyd.  Ymunodd â KPC i helpu pobl ddi-waith i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, cael at TG, creu neu ddiweddaru CV, meithrin hyder wrth chwilio am waith a dysgu sut i ymgeisio am swyddi.

'Mae'r rôl y mae Sharon yn ei chynorthwyo yn hanfodol o fewn ein cymuned sydd dan anfantais yn gymdeithasol ac sydd â phocedi mawr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf,' meddai Alison Mawby Rheolwr y prosiect y mae Sharon yn gwirfoddoli ynddo yn KPC Youth & Community.  'Dengys ystadegau fod gennym lefel uwch na'r cyfartaledd o sgiliau isel yn ein poblogaeth oedolion, a hefyd lefelau uchel o ddiweithdra.'

Mae'r rôl wirfoddol wedi bod o fudd mawr yn helpu Sharon i ddatblygu a diweddaru ei sgiliau, ei phrofiad a'i gwybodaeth ei hun.  Mae hi hefyd wedi mynychu sawl cwrs, gan gynnwys Hyfforddiant Hyrwyddwyr Digidol, ac wedi ennill Dyfarniad Lefel 3 y Ddinas a'r Urddau mewn Addysg a Dysgu.

'Teimlaf fod Sharon wedi'i phrofi ei hun yn wirfoddolwr ardderchog a gwerthfawr, ac yn rhan bwysig iawn o'n tîm,' ychwanegodd Alison.  'Mae hi'n hyblyg, yn gefnogol, ac er yn ddi-dâl mae hi'n dangos ymrwymiad arbennig i'r hyn y mae'r elusen a'r prosiect yn ei gynnig, a'r cleientiaid sy'n defnyddio ein gwasanaethau.

'Teimlwn fod Sharon yn ysbrydoliaeth i ddarpar wirfoddolwyr eraill - sydd, yn ogystal ag ennill profiad a sgiliau, hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i oedolion di-waith eraill, ac yn eu helpu i fod â siawns well mewn bywyd.'

Ail

Helpwyr Digidol Cartrefi NPT (Castell Nedd)

Mae pobl hŷn ledled ardal Castell-nedd Port Talbot yn newid eu bywydau er gwell drwy dechnoleg newydd, diolch i waith criw o wirfoddolwyr digidol.

Mae trigolion tai gwarchod wedi dysgu sut i olrhain eu hachau a chadw mewn cysylltiad â theulu sy'n byw dramor, gan wneud ffrindiau newydd a goresgyn arwahanrwydd ac unigedd o ganlyniad.

Mae Prosiect Helpwyr Digidol Cartrefi NPT yn cynnal sesiynau ar draws 13 o gynlluniau gwarchod Haven Housing.  Mae gwirfoddolwyr y grŵp yn amrywio mewn oedran o 17 i 80 mlwydd oed, gan gynnig cymorth i denantiaid mewn grwpiau ac yn unigol.

'Mae rhai pobl hŷn i ddechrau heb ddiddordeb, yn rhy ofnus neu'n teimlo'n rhy hen i ddysgu,' meddai Cydlynydd y Grŵp Janet Weaver.  'Mae bron i 100 bellach yn ymwybodol yn ddigidol.'

Mae un o'r trigolion, sy'n 87 mlwydd oed, wedi prynu IPad, dysgu sut i ddefnyddio Skype ac mewn cysylltiad rheolaidd â'i meibion sy'n byw yn yr Aifft a Chaerdydd.

'Mae trigolion yn teimlo'n fwy cysylltiedig, cynwysedig a phositif, gan fod yna fwy o ddewis a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol modern fel chwilota am gyrchfannau gwyliau, crefftau a hobïau eraill,' ychwanegodd Janet.

'Mae'r gwirfoddolwyr yn dangos gwir garedigrwydd a dealltwriaeth tuag at eraill ac yn gwneud iddynt ymlacio wrth iddynt ddysgu wrth eu pwysau yn eu hamgylchedd eu hunain.'