Wythnos Gwirfoddolwyr - 'Gwirfoddoli i bawb'.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wyl flynyddol ar gyfer gwirfoddoli yn y DU. Prif nodau’r Wythnos yw cydnabod, gwobrwyo a recriwtio gwirfoddolwyr.

Achlysur blynyddol i ddathlu gwirfoddolwyr yw Wythnos
Gwirfoddolwyr ac fe'i cynhelir ym mis Mehefin bob blwyddyn. Ar hyd
a lled y wlad, bydd yna bartïon, digwyddiadau gwobrwyo, teithiau,
ffeiriau recriwtio ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal er mwyn
recriwtio, gwobrwyo a chydnabod gwirfoddolwyr.
Anogir cymunedau lleol i gymryd rhan drwy gynnal eu parti stryd neu
eu digwyddiad eu hunain, ac i ddefnyddio'r cyfle hwn i gefnogi eu
cymunedau lleol drwy godi arian neu wirfoddoli.
Cynhaliwyd Wythnos y Gwirfoddolwyr am y tro cyntaf ym 1984. Bob
blwyddyn mae mwy o fudiadau'n cymryd rhan, gan gynnal digwyddiadau
amrywiol ledled Cymru gyfan, gan gynnwys cyflwyno gwobrau,
stondinau gwybodaeth a digwyddiadau cymunedol.
Beth am ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda'ch gwirfoddolwyr chi
drwy, er enghraifft:
- Defnyddio logo eps; jpeg Wythnos Gwirfoddolwyr
- Gwobrwyo'ch gwirfoddolwyr a'ch grwpiau â thystysgrif Wythnos
Gwirfoddolwyr:tystysgrif
grŵp;
thystysgrif
gwirfoddolwr
- Denu sylw'r cyfryngau at yr hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei
wneud
- cynnal achlysur arbennig i ddiolch iddynt A3
poster
Rysáit Wythnos Gwirfoddolwyr
llwyddiannus
Cliciwch ar y cysylltiadau isod i'w weld
beth mae erailll wedi'i wneud i ddathlu Wythnos
Gwirfoddolwyr.

Blind
Veterans UK noson 'Play your cards right'

Chwareon
Cymru Hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol

CVSC Digwyddiad i
ddathlu gwirfoddolwyr

Cymorth Canser Macmillan - Te prynhawn, gyda siaradwyr a seremoni
wobrwyo

Discovery
Gwirfoddoli i Fyfyrwyr Abertawe Sesiynau blasu

Fforum Gwirfoddoli Abertawe Digwyddiad ar gyfer gwirfoddolwyr a
rheolwyr gwirfoddolwyr

PAVS
Ffair Gwirfoddolwyr a Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn

SCVS Arddangosfa ffotograffau 'SHINE! You make the
difference'
Cyhoeddwch eich digwyddiad mor eang ac sy'n
bosib
Anfonwch manylion eich cynlluniau at nnicholls@wcva.org.uk
ac fyddm yn eu bostio ar y gwefan hon. Anfonwch manylion
postio yn yr adran 'digwyddiadau' ar y gwefan cenedlaethol www.gwirfoddolicymru.net
Beth am drydar eich digwyddiad arbennig, gan
ddefnyddio #wythnosgwirfoddolwyr a'i anfon atom ni
hefyd @VolWales (ac aildrydar beth mae eraill yn ei
wneud)
Beth bynnag rydych yn ei wneud, mwynhewch Wythnos
Gwirfoddolwyr!