8 Chwef 2017
Cynhaliwyd gŵyl gelfyddydau iechyd meddwl Cymru, ‘Walls, Muriau’, yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Tachwedd

Mae'n ŵyl flynyddol a dyma'r eildro iddi gael ei chynnal. Mae'n
bartneriaeth rhwng Celfyddydau Anabledd Cymru,
a drefnodd yr ŵyl, a rhwydwaith Celfyddydau Gwirfoddol
Cymru, a aeth ati i recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr i
sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Darparodd yr ŵyl 'le diogel' i ystyried materion amrywiol drwy
berfformiadau, seminarau, gweithdai, cyfryngau gweledol a sesiynau
rhyngweithiol. Roedd gan lawer o'r artistiaid a oedd yn perfformio
yno brofiad uniongyrchol o salwch meddwl, sy'n dylanwadu ar eu
gwaith.
Fel rhan o brosiect Ysbryd Gwirfoddoli
Cymru aeth Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ati i ddatblygu
prosesau i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr i gefnogi'r ŵyl ac i
ddarparu ffordd o weithio ar gyfer gwyliau o'r math yma yn y
dyfodol.
Cydnabuwyd mai un o'r heriau oedd darparu'r cymorth cywir i bobl y
gallai eu hiechyd meddwl fod yn fregus.
Dywedodd Janina Kukzys, cydlynydd y gwirfoddolwyr, 'roedden
ni'n meddwl efallai y gallai'r hyn a oedd yn rhai o'r perfformiadau
a'r sesiynau ennyn ymatebion anffafriol yn y gynulleidfa. Roedd
hi'n bwysig paratoi at hynny'.
Gwahoddwyd gwirfoddolwyr i wneud hyfforddiant ymlaen llaw a
ganolbwyntiodd ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl gyda sesiwn ar
gwrteisi wrth weithio gyda phobl anabl. Ar y diwrnod roedd ystafell
dawel ar gael i unrhyw un a oedd angen seibiant o'r cyffro. Roedd
Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wrth law ac roedd y
gwirfoddolwyr yn gwybod pwy oeddynt a sut i ddod o hyd iddynt pe
bai angen. Rhoddwyd gwybod i bob gwirfoddolwr ar y diwrnod at bwy
dylent fynd mewn ymateb i wahanol sefyllfaoedd a rhoddwyd
bathodynnau i bob un gyda gwybodaeth argyfwng.
Yn y diwedd, prin y defnyddiwyd yr ystafell dawel a doedd dim
angen y swyddogion cymorth cyntaf, diolch i'r drefn. Ond mae'n siwr
bod criw o wirfoddolwyr a staff a oedd wedi'u paratoi yn dda wedi
helpu i greu 'lle diogel' cynhwysol, croesawgar a chyfeillgar
iawn.
Mae Frances, therapydd cyflenwol a bardd, yn credu'n angerddol ym
mhwysigrwydd mynegiant artistig i'n llesiant meddwl. Gwirfoddolodd
i roi help llaw dros ddeuddydd yn yr ŵyl.
'Roeddwn yn meddwl y bydden ni fel gwirfoddolwyr yn sefyll ac
yn arsylwi, felly siom ar yr ochr orau oedd cael ymuno yn y
sesiynau' meddai.
