Cyfleoedd dysgu arlein i’ch mudiad

Mae gweminarau ac e-gyrsiau yn ffordd hawdd a hwylus o ddysgu
wrth eich pwysau. Rydym yn cynnig ystod o weminarau byr, yn ogystal
ag adnoddau ychwanegol ar gyfer sesiynau ystafell ddosbarth
traddodiadol.
Mae ein holl weminarau ac e-gyrsiau yn canolbwyntio ar anghenion
mudiadau trydydd sector gan eich helpu i redeg eich mudiad yn fwy
effeithiol a datblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth eich hun - p'un ai
ydych yn aelod o staff neu'n wirfoddolwr.
Dyma restr o weminarau y gallwn eu teilwra i ateb eich anghenion
dysgu unigol. Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol:
- Sicrhau bod eich cais yn dal y llygad
- Rheoli Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau
- Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng
Nghymru
- Cynllunio ac ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus am gyllid
- Cynnal ymgynghoriad llwyddiannus
Gofynion technegol
Mae'n hawdd cael at ein gweminarau! Bydd arnoch angen
cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd, gyda'r fersiwn
ddiweddaraf o Adobe
Flash. Bydd hefyd arnoch angen clustffonau neu seinydd i wrando
ar y cyflwyniad.
Cysylltwch â
ni i drafod eich anghenion dysgu unigol neu anghenion dysgu'ch
mudiad.
Hafan Dysgu
Cofiwch fwrw golwg ar Hafan Dysgu WCVA. Mae'r
Hafan Dysgu yn cynnig ffordd hygyrch a hawdd o ddysgu arlein. Mae'r
safle yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu annibynnol, yn ogystal â
chynnwys ac adnoddau ychwanegol ar gyfer sesiynau ystafell
ddosbarth traddodiadol.