Dysgu gyda ni!

Rydym yn darparu hyfforddiant pwrpasol sydd yn cynnig dull hyblyg a chost effeithiol i gwrdd ag eich chi anghenion a'ch mudiad.

Mae ein cyrsiau yn hwyl, yn gyfranogol ac yn cael eu cynnal mewn amgylchedd dysgu hamddenol, gallant roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi a'ch mudiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol. Cydnabyddwn fod pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol; yn ein rhaglen hyfforddi newydd fe welwch amrywiaeth o gyrsiau byr, gweithdai, dysgu wedi'i achredu, seminarau a chyfleoedd dysgu arlein. Arweinir ein hyfforddiant i gyd gan arbenigwyr yn eu maes sydd wedi ymrwymo i arfer gorau wrth gyfranogi ac ymgysylltu.

Gallwn ddarparu ein cyrsiau i unrhyw rif o gyfranogwyr mewn lleoliad sy'n gweithio i chi. Rydym yn codi tâl ar gyfer ffi'r hyfforddwr a chostau teithio, cynhyrchiad taflenni a deunyddiau. Bydd angen i'ch sefydliad darparu'r lleoliad a lluniaeth, os yn berthnasol.

Rydym yn gweithio gyda chi i gynllunio ac addasu'r cwrs. Rydym yn awgrymu llenwi'r cwrs er mwyn lleihau pris y pen. Beth am wahodd mudiadau eraill i fynychu hefyd, gan adeiladupartneriaethau a'i wneud yn rhatach i bawb?

Rydym yn darparu hyfforddiant ar ystod o bynciau.  Mae modd teilwra pob cwrs i anghenion dysgu'ch mudiad chi.

Gall hyfforddiant gael ei gyflwyno dros hanner diwrnod, diwrnod llawn neu dros sawl diwrnod. Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'ch anghenion hyfforddi.

Dewiswch bwnc isod, neu edrychwch ar restr A-Z gyflawn o Gyrsiau Hyfforddi WCVA

Llywodraethu
Hwyluso
Monitro a gwerthuso
Cyfathrebu
Cyfryngau Cymdeithasol
Ymgysylltu â'r cyhoedd
Dod o hyd i gyllid
Arwain a Rheoli
Sgiliau hyfforddi