I archwilio ac ymarfer nifer o dechnegau cyfranogol y gellir eu defnyddio wyneb yn wyneb wrth wneud gweithgareddau ymgysylltu

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i ddysgu ac ymarfer
nifer o dechnegau cyfranogol y gellir eu defnyddio wrth gynnal
gweithgarwch ymgysylltu yn wyneb yn wyneb.
Gellir defnyddio'r dulliau yma mewn sawl lleoliad gwahanol a'u
cyfieithu yn hawdd o un cyd-destun i'r llall.
Maent yn cynnig dulliau newydd ar gyfer gwaith ymgysylltu'r
ymarferwr a'r profiad ymarferol o roi cynnig arnynt o fewn
cyd-destun diogel.
Amcanion dysgu
- Egluro Egwyddorion Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn effeithiol
- Nodi materion sydd angen eu hystyried wrth gynllunio digwyddiad
cyfranogol
- Nodi dulliau priodol o gyfranogiad i'w defnyddio mewn
cyd-destunau penodol
- Cynnig cyfle i ymarfer dulliau cyfranogol mewn amgylchedd
diogel
- Rhannu profiadau gyda chyfranogwyr eraill
Canlyniadau dysgu
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:
- Disgrifio egwyddorion Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn effeithiol
- Trefnu digwyddiadau cyfranogol effeithiol
- Defnyddio technegau cyfranogol gwahanol mewn sefyllfaoedd
gwahanol
- Defnyddio 'Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Cyhoedd' o dechnegau a
phrosesau
- Gwybod ble i gael gafael ar adnoddau ychwanegol
Cynulleidfa darged
Unigolion a mudiadau sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd.
Gallwn hefyd deilwra'r cwrs hwn i'ch mudiad, cysylltwch â ni i
gael sgwrs anffurfiol am eich anghenion dysgu.