Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng Banc Datblygu Cymru yw’r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru i gefnogi mentrau bach a chanolig eu maint.

Bydd y Gronfa yn buddsoddi cyfanswm o £6 miliwn mewn benthyciadau bychain tan 2018, gyda Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn rheoli mynediad at yr arian hwn i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru.

Sut y gallwn helpu

Rydym wedi cynorthwyo llawer o fusnesau cymdeithasol i ehangu drwy fenthyciadau hyblyg ar gyfer anghenion buddsoddi amrywiol megis:

  • Prynu stoc - A fyddai rhagor o stoc neu stoc wahanol yn rhoi'r hwb angenrheidiol yna i'ch busnes?
  • Offer a chyfarpar newydd - Gallai cyfarpar newydd gynyddu faint rydych yn ei gynhyrchu neu'n gwneud eich busnes yn fwy effeithlon
  • Llif arian - Efallai mai rheoli llif arian parod yn well yw'r allwedd i ddatgloi potensial eich busnes
  • Eiddo newydd - Rydych wedi ehangu ac angen mwy o le neu mae angen i chi ddodrefnu'ch eiddo newydd
  • Prynu busnes - Fe hoffech brynu busnes bach

Gall benthyciad bach ddarparu'r cyfalaf rydych ei angen i fuddsoddi yn eich busnes a gellir ei ddefnyddio hefyd ochr yn ochr â chyllid arall. 

Meini prawf buddsoddi

Sylwch y bydd angen i chi gyd-fynd â'r canlynol i gael eich ystyried am fuddsoddiad:

  • Wedi'ch lleoli yng Nghymru neu'n fodlon adleoli
  • Darparu cynllun busnes
  • Llenwi ffurflen gais gan ddarparu'r dogfennau ategol angenrheidiol

Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda chyfnod ad-dalu o hyd at bum mlynedd.

Dylai mudiadau sydd â diddordeb gysylltu â Matt, Alun neu Rhys i gael sgwrs gychwynnol drwy ffonio Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu ebostio microfund@wcva.org.uk

 Development Bank of Wales