Mae'r rhestr enillwyr a'r ail orau wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer Gwobrau Trydydd Sector Cymru 2017

Cefnogir gan


Class Networks 

 

 

cp1 tsac awards page

Gwobr am y cyfathrebu gorau
Cefnogir gan  Creative Loop

ENILLYDD - Gŵyl Nôl a Mlan

Cafodd Gŵyl Nôl a Mlan, gŵyl a gynhelir yn Llangrannog, Ceredigion ei sefydlu gan wirfoddolwyr yn 2009.  Mae'r cynnydd yn ei phoblogrwydd wedi bod yn 'ddiddiwedd' ac yn 2017, torrodd y record flaenorol gyda dros o 8,000 o ymwelwyr yn ystod dau ddiwrnod y digwyddiad.

'Y prif reswm am hyn oedd y cynllun cyfathrebu dynamig a defnydd arloesol a chlyfar o gyfryngau cymdeithasol,' yn ôl cynhyrchydd yr ŵyl Carys Ifan. 
 
'Roedd y tîm bychan yn flaengar wrth agor cyfrifon Facebook a Twitter bron i 10 mlynedd yn ôl.  Yn 2016, cafodd proffil Snapchat ei sefydlu, ac yna proffil Instagram y llynedd, i sicrhau ein bod yn gallu cyfathrebu mewn ffordd wahanol â'r gwahanol gynulleidfaoedd.'
 
Mae gan yr ŵyl dair prif nod - hybu'r Gymraeg, cyfrannu at economi ac economi ddiwylliannol y pentref a'r ardal gyfagos, a chynnig profiad i'r teulu cyfan.
 
'Mae'r mudiad yn cyfathrebu yn y Gymraeg bob amser, gan ddefnyddio iaith bob dydd, tafodiaith ac ymadroddion lleol, geirfa berthnasol a hiwmor,' yn ôl Carys Ifan.  'Mae cyfarpar cyfieithu ar gael ar gyfryngau cymdeithasol felly mae hyn yn opsiwn i'r sawl na allant - eto - siarad Cymraeg.
 
'Nid oes amheuaeth nad yw'r gymuned leol wedi elwa'n fawr yn sgil cynllun cyfathrebu hyderus a hwyliog yr ŵyl, gan atgyfnerthu hyder y bobl leol i sylweddoli eu bod yn byw mewn cymuned gref a bywiog ac osgoi unrhyw ymdeimlad o amddifadedd gwledig.
 
'A chan fod cymaint o ymwelwyr yn dod i'r ŵyl, ac yn dychwelyd ar adegau eraill o'r flwyddyn, mae'r ŵyl wedi gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol.'


YR AIL ORAU - Chwarae Teg

Daw'r menywod sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun Merched Gwych o Gymru Chwarae Teg o blith menywod heddiw ac o hanes y gorffennol ac maent yn cynnwys gwyddonwyr, athletwyr, actorion, pobl fusnes a dyngarwyr.

'Yr unig amod yw bod yn rhaid iddynt fod â stori ysbrydoledig neu wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil,' meddai Swyddog Cyfathrebu Strategol yr elusen cydraddoldeb Helen Bradley.

'Mae'r cynllun yn helpu Chwarae Teg i gyflawni ei amcanion i ysbrydoli, arwain a sicrhau cyfartaledd rhwng y rhywiau trwy ennyn trafodaeth ar y diffyg sylw sy'n cael ei roi ar hyn o bryd i ddelfrydau ymddwyn benywaidd a thrwy dynnu sylw at fenywod sy'n ein hysbrydoli.' 

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar 11 Hydref, 2017 - Diwrnod Rhyngwladol y Ferch - ac mae'n defnyddio platfformau cyfryngau digidol.  Mae'r trydar a lansiodd yr ymgyrch wedi cael ei weld dros 89,000 to weithiau, wedi annog 3,400 o gysylltiadau a 250 o ddilynwyr newydd i Chwarae Teg. Profwyd lefelau tebyg o frwdfrydedd a llwyddiant ar Facebook, gyda graffeg y lansiad yn cael ei rannu 71 o weithiau ac fe'i gwelwyd gan 14,200 o bobl.

'Pob wythnos, rydym yn rhoi sylw i fenyw wych o Gymru i godi proffil delfrydau benywaidd yng Nghymru ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod Cymreig, i'w grymuso, a'u galluogi i gyflawni a ffynnu,' meddai Helen Bradley.

Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt gyda phleidlais gyhoeddus, ar gyfryngau digidol i ddewis y ddelfryd ymddwyn fwyaf ysbrydoledig a fydd wedyn yn cael ei gwobrwyo yng ngwobrau Womenspire 2018. 


YR AIL ORAU - Academi Valleys Gymnastics

Mae gan y Valleys Gymnastics Academy (VGA), sydd wedi'i lleoli yng Nghrymlyn, Caerffili, strategaeth gyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ddarparu profiadau o ansawdd uchel i'w haelodau, ac ar yr un pryd hefyd yn denu aelodau a chyfranogwyr newydd.

Mae'r mudiad yn defnyddio tri phlatfform cyfryngau cymdeithasol gwahanol. Mae'r tudalennau Facebook yn cael eu defnyddio i hysbysebu a recriwtio yn bennaf, ac mae hynny wedi'i dargedu at rieni'n bennaf.

Mae'r cyfrif Twitter yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i gyfathrebu â phartneriaid presennol a darpar bartneriaid y clwb, gan dynnu sylw at storïau newyddion da a gweithgareddau, yn ogystal â rhannu enghreifftiau o gydweithio. Ar hyn o bryd mae gan gyfrif Twitter y clwb 3,330 o ddilynwyr.

Mae cyfrif Instagram y clwb yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i ymgysylltu ag aelodau ifanc trwy dynnu sylw at gyflawniadau, canlyniadau cystadlaethau a fideos a lluniau o ddosbarthiadau. Ar hyn o bryd mae gan y cyfrif 3,930 o ddilynwyr.

'Mae Valleys Gymnastics Academy yn fenter gymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau, ac yn ddiweddar enillodd wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru 2017 (categori Profiad y Cwsmer) ar sail ei thwf a'i chynaliadwyedd,' yn ôl y Cyfarwyddwr Aled Jones.

'Mae adborth gan rieni wedi dangos bod cyfathrebu parhaus trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol y clwb wedi cyfoethogi eu profiadau. Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr hefyd yn gallu rhyngweithio a chyfathrebu â'i gilydd trwy'r platfformau cyfryngau cymdeithasol.

'Oherwydd ei amlygrwydd ar gyfryngau cymdeithasol, cyfeirir at VGA yn rheolaidd fel presenoldeb 'bywiog, gweladwy yn y gymuned.'


Y wobr amgylcheddol

ENILLYDD - REFURBS Sir y Fllint

CafoddREFURBSSir y Fflint, elusen ailgylchu dodrefn, ei sefydlu yn 2002, ac un o'u pedwar nod elusennol oedd 'gwarchod ac amddiffyn yr amgylchedd ffisegol a naturiol trwy hybu arferion rheoli gwastraff cynaliadwy'.

Mae'r elusen yn datgymalu eitemau i'w rhannau elfennol i sicrhau bod modd eu hailgylchu, ac mae'r rhai y bernir y gellir eu hailddefnyddio'n cael eu glanhau, eu trwsio a'u hailgylchu yn ôl i'r gymuned o'u hystafelloedd arddangos yn y Fflint.

Ym mis Tachwedd 2016, cychwynnodd REFURBS ar brosiect peilot tri mis ar ran Cyngor Sir y Fflint i sicrhau nad oedd dim dodrefn meddal - soffas, cadeiriau esmwyth, gwelyau ac ati - yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi.

Ers hynny mae wedi datgymalu mwy na 6,300 o eitemau, wedi dargyfeirio bron i 270 o dunelli o safleoedd tirlenwi ac wedi ailgylchu dros 6,800 o eitemau (205 o dunelli) - yn ogystal â rhedeg ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu ym mhob un o Ganolfannau Ailgylchu'r Cartref yn Sir y Fflint.

'Ers ei sefydlu, mae REFURBS wedi gweld y cyfraddau ailddefnyddio yn rhai o'r canolfannau ailgylchu yn codi'n sylweddol, o gyn lleied â phump y cant ym mis Tachwedd 2016 i 50% erbyn mis Hydref 2017,' meddai Rheolwr Cyffredinol REFURBS Kevin Barry.

'Yn dilyn estyniad diweddar, mae'r prosiect peilot yn parhau, gan gynhyrchu canlyniadau pwysig tra'n cynnig swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith i'r rhai hynny yn y gymuned sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur.'

YR AIL ORAU - Tir Gwyllt

Cafodd Wild Ground - Tir Gwyllt o Wrecsam ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl gan grŵp o breswylwyr Cei Conna a oedd yn poeni am yr effaith yr oedd datblygiadau mawr yn ei chael ar amgylchedd a bywyd gwyllt yr ardal. 

Mae'r grŵp yn gofalu am gynefinoedd a rhywogaethau prin, yn enwedig pyllau a gwlyptiroedd er mwyn diogelu madfallod dŵr cribog, rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod. Mae llawer o'u gwarchodfeydd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), ac maent yn eu gwarchod trwy ddulliau sy'n cynnwys rheoli rhywogaethau goresgynnol ac estron, plannu coed a gwrychoedd, gwella dolydd, ac ail-greu pyllau.

Mae'n hybu ffyrdd amgylcheddol garedig o fyw sy'n ennyn parch tuag at fyd natur trwy gynnal digwyddiadau ar thema bywyd gwyllt sy'n amrywio o ddyddiau agored i'r cyhoedd, sesiynau archwilio pyllau, arolygon adar, teithiau cerdded i chwilio am ystlumod, helfeydd ffwng, creu safleoedd bridio a gaeafgysgu ar gyfer amffibiaid ac ymlusgiaid, a gosod blychau nythu.

Mae 'Wild Ground - Tir Gwyllt yn gweithio â grŵp anhygoel o wirfoddolwyr, ac mae dros 100 ohonynt, sy'n helpu â phob math o weithgarwch,' medd y Cyfarwyddwr Cadwraeth Leah Williams.  'Mae'n ffodus o gael gweithio ag amrywiaeth eang o bobl o bob math o gefndiroedd, ac mae gan lawer ohonynt anawsterau corfforol a / neu broblemau iechyd meddwl.

'Mae'r bobl hyn yn cael cyfle i gael profiad o'u hamgylcheddau naturiol lleol ac i ddysgu am y bywyd gwyllt sydd yno a sut y gallant ei warchod. Yn ogystal â hynny, maent yn magu hyder, yn dysgu sgiliau newydd, yn gwneud gwahaniaeth i'w hamgylchedd lleol, yn gwneud ffrindiau newydd, ac yn cael hwyl!' 

YR AIL ORAU -Grŵp Afonydd Caerdydd

Er 2009, mae'rGrŵp Afonydd Caerdyddwedi bod yn gweithio yn afonydd, dyfrffyrdd a phyllau Caerdydd, ac maent wedi casglu 4,225 bag o sbwriel, 184 o drolis siopa, 237 o deiars, 174 o gonau traffig, 89 o feiciau, 16 o feiciau modur a 27 tunnell o wastraff.  Mae 7.5 tunnell arall o fetel sgrap wedi cael ei ailgylchu, a dyna yw prif ffynhonnell incwm y grŵp.

'Mae hwn yn wastraff a sbwriel na all yr awdurdod lleol gael gwared arno ar ei ben ei hun, ac felly mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwelliant dramatig i'r amgylchedd naturiol,' yn ôl Ysgrifennydd Amgylcheddol y grŵp, Chris Hackett.

'Mae preswylwyr Caerdydd a'r rhai sy'n ymweld â'r brifddinas wedi elwa'n uniongyrchol gan eu bod yn awr yn cael mwy o fwynhad o'n hafonydd gan fod yr holl sbwriel blêr wedi diflannu erbyn hyn.'

Mae'r grŵp hefyd yn gwneud gwaith pwysig i warchod a rheoli cynefinoedd.  'O gofio'r toriadau i gyllideb amgylcheddol Cyngor Caerdydd, mae Parcmyn Parciau Caerdydd wedi bod yn gofyn mwy a mwy am ein help ac mae ein cyfraniad i gael gwared ar frwyn goresgynnol o byllau yn Forest Farm, yr Eglwys Newydd a Pharc Grangemoor yn Grangetown yn cael ei werthfawrogi,' yn ôl Chris Hackett.

'Mae gwirfoddoli â Grŵp Afonydd Caerdydd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl, ac mae'n gwella llesiant meddyliol, gan fod gwirfoddolwyr yn teimlo'n hapusach ac yn fwy bodlon eu byd trwy wneud eu cyfraniad dinesig trwy fod yn rhan o'r grŵp.'


Y wobr iechyd, gofal, cymdeithasol a lles

ENILLWYR - ABMyouth a Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin

ABMyouth

Mae ABMyouth, a sefydlwyd yn 2016 yn grŵp o 20 o bobl ifanc o bob rhan o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr sy'n gweithio i wella gwasanaethau iechyd i blant a phobl ifanc, a dyma'r panel gweithredu cyntaf o bobl ifanc sy'n gweithio o fewn GIG Cymru.

Mae'r gwirfoddolwyr yn cynrychioli llais plant a phobl ifanc yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BIPABM). Maent yn cwrdd bob mis mewn ysbytai ledled De Cymru i gynllunio'u prosiectau eu hunain, i gwrdd â gweithiwyr gofal iechyd proffesiynol ac i bennu amcanion ar gyfer y dyfodol.

'Mae ein tîm wedi'i ffurfio o bobl ifanc rhwng 13 a 23 oed ac mae ganddynt i gyd sgiliau a nodweddion unigryw,' meddai Cadeirydd ABMyouth, Sophie Millar.  'Mae gennym aelodau sydd â phrofiad o fod yn gleifion, mae eraill yn gwirfoddoli ag Ambiwlans Saint Ioan ac mae llawer y gobeithio mynd ymlaen i fod yn nyrsys, fferyllwyr a meddygon.

'Rydym yn cyfleu barn pobl ifanc ar y materion iechyd hynny sydd bwysicaf iddynt hwy ac yn gwneud yn siŵr bod oedolion yn gwrando trwy adrodd yn uniongyrchol i fwrdd gweithredol BIPABM.

'Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys ar lefel penderfyniadau. Trwy weithio'n uniongyrchol â staff y GIG rydym yn gallu gwneud newidiadau positif ac yn cael effaith wirioneddol ar y gwasanaethau iechyd mae pobl ifanc yn eu defnyddio.

Mae aelodau ABMyouth wedi bod yn rhan o'r panelau cyfweld ar gyfer staff BIPABM. Maent hefyd yn gweithio â chleifion ifanc i gofnodi eu storïau, eu meddyliau a'u teimladau am eu teithiau drwy wasanaethau ysbytai.

Mae'r prosiectau'n cynnwys 'Her 15 Cam' - sy'n galluogi staff y GIG i ddeall sut brofiad yw cerdded i mewn i ward ysbyty am y tro cyntaf trwy lygaid plentyn neu berson ifanc - ac mae holiadur cleifion yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r nod o gasglu barn cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl.

'Yn 2018, byddwn yn gweithio â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion ac yn datblygu arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws y bwrdd iechyd,' meddai Sophie.


Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin

Mae Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin yn fudiad eiriolaeth a hyfforddi, sy'n cael ei redeg gan yr aelodau ar gyfer yr aelodau, ac mae'n trefnu grwpiau ar gyfer dynion a menywod a grwpiau cyfnewid sgiliau ac yn cynnig cymorth ffurfiol ac anffurfiol gan gymheiriaid ar ystod o faterion.

Sbardunodd hyn y grŵp i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant gan gynnwys sgrinio am ganser, bod yn ddiogel ar-lein ac ymwybyddiaeth o anableddau dysgu - ac maent i gyd yn cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno ar y cyd gan bobl ag anabledd dysgu.

'Mae'r aelodau hefyd wedi datblygu ac maent yn rhedeg eu dosbarthiadau bwyta'n iach ac ymarfer corff eu hunain, gan ddefnyddio eu profiadau o fywyd i helpu aelodau eraill i dyfu ac i ddatblygu,' meddai Mal Cansdale o'r cwmni hyfforddi a gwybodaeth Barod CIC.

'Mae'r grŵp yn lle diogel i bobl ag anabledd dysgu yn Sir Gâr i siarad ag aelodau eraill a staff cyflogedig. Mae'r eiriolwyr cyflogedig yn darparu cymorth holl bwysig i aelodau ar amrywiaeth eang o faterion cymhleth gan gynnwys iechyd, tai a budd-daliadau, o faterion o ddydd i ddydd i adegau o argyfwng.

'Mae'r grŵp yn cynnig lleoliadau rheolaidd i weithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant gan roi ymwybyddiaeth iddynt o ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyfle i wrando ar yr hyn mae pobl ei eisiau mewn gwirionedd. Mae'n rhan bwysig o fywydau cymdeithasol pobl, gan eu helpu i wneud ffrindiau newydd ac i ddysgu am gymorth cymheiriaid.


YR AIL ORAU - Footsteps to Recovery

Mae Footsteps to Recovery yn rhaglen arloesol sy'n darparu 'trwyofal', ôl-ofal a chymorth parhaus i wella ar gyfer pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Yn 'bartneriaeth unigryw' o dri mudiad cwbl wahanol - Solas a Recovery Cymru, Newlink Cymru a Recovery Cymru Cymunedol - mae'n darparu gwasanaeth adsefydlu yn y gymuned, hyfforddiant i wirfoddolwyr a lleoliadau a chymorth parhaus i wella.

Mae'r gwasanaeth adsefydlu a ddarperir gan Solas a Recovery Cymru yn cynnwys therapïau seico-gymdeithasol tra bydd y client yn aros gartref ac mae'n datblygu strategaethau i ddelio â materion fel hwyliau isel, gorbryder a cholled, a gwella eu gallu i greu cydbwysedd ffordd o fyw iach.

Mae'r asiantaeth arbenigol sy'n darparu hyfforddiant mewn camddefnyddio sylweddau, Newlink Cymru yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli. I lawer o'r cyfranogwyr, mae gwirfoddoli'n rhan hanfodol o'r broses wella ac mae'n gallu bod yn gam yn ôl i gyflogaeth a gweithgarwch economaidd.

'Mae cymorth am byth Recovery Cymru yn golygu bod aelodau'r gymuned yn gallu cael gafael ar help cymheiriaid am gyhyd a pha mor aml bynnag y bydd ei angen arnynt,' medd Gareth Joseph o Recovery Cymru Cymunedol. 

'Athroniaeth y rhaglen yw oni bai bod pobl yn gwella ac yn cynnal eu hiechyd a'u llesiant, ni fydd pobl yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen i oresgyn problemau camddefnyddio sylweddau.'


YR AIL ORAU - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Er ei bod wedi gwneud ei gorau bob amser i sicrhau bod ei gwasanaethau i ymwelwyr yn gofalu am rai ag anghenion arbennig, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi penderfynu mynd ati i edrych sut y gall greu gofod diogel i bobl ag awtistiaeth ar ôl i Rhys, gwirfoddolwr yn eu harddegau, sydd ei hun yn awtistig ymuno â hwy.

'Pan ddechreuodd Rhys weithio am y tro cyntaf, ni allai wneud cyswllt llygaid ac roedd yn anghyfforddus yng nghwmni dieithriaid,' meddai Swyddog Marchnata a Chyfathrebu'r Amgueddfa, Jenny Walford.

'Erbyn hyn, mae'n fwy na hapus i helpu mewn sesiynau trafod gwrthrychau yn yr amgueddfa ac yn ein gwaith allgymorth, ac mae'n gallu ymgysylltu â chynnal sgwrs â dieithriaid.'

Y llynedd, penododd yr amgueddfa hyrwyddwr awtistiaeth, Suzanne, sydd â mab sy'n awtistig. Mae Suzanne yn awr yn hyrwyddo newidiadau a fydd yn help i bobl ag awtistiaeth, ym mhob un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru.

Hi oedd yn bennaf cyfrifol am sefydlu'r ystafell ymdawelu newydd yn Amgueddfa'r Glannau, a chredir mai dyma'r cyntaf o'i bath mewn amgueddfa yng Nghymru. Mae'n cynnwys llawr meddal, sachau ffa i ymlacio arnynt, nenfwd sy'n newid lliwiau, synau naturiol fel adar yn canu a thonnau'n torri ar draeth, ac amrywiaeth o deganau gyda gweadau gwahanol i chwarae â hwy.

'Mae'r ystafell yn lle llonydd i ymlacio ynddo i ymwelwyr ag awtistiaeth, dementia a chyflyrau eraill - a all gael eu llethu gan dorfeydd, goleuadau a synau'r amgueddfa - cyn dychwelyd i'r amgueddfa ei hun,' medd Jenny.

 

Gwobr am lywodraethu da 

ENILLYDD - Hope Rescue

MaeHope Rescueyn Llanharan, Rhondda Cynon Taf, wedi tyfu o fod yn elusen fechan gyda dim ond un aelod o staff gweithredol cyflogedig i fod â 13 o bobl yn gweithio yn y ganolfan £650,000.

Aeth y Bwrdd Ymddiriedolwyr ati i recriwtio pedwar aelod newydd - cyfrifydd rheoli, rheolwr caffael, rheolwyr Adnoddau Dynol a rheolwr marchnata - i lunio'r cynllun busnes oedd ei angen i'w galluogi i brynu'r adeilad.

'Maent wedi datblygu model busnes cadarn sy'n cynnwys sefydlu cwmni masnachu a model menter gymdeithasol,' medd y Rheolwr Trawsnewid, Vanessa Waddon.

Canfuwyd ffrydiau incwm cynaliadwy newydd, gan gynnwys lletya masnachol ar gyfer anifeiliaid, contract cŵn crwydr ag awdurdod lleol, contractau lletya lles ag elusennau eraill, ac ailddatblygu'r siop elusen trwy gyllid grant i ddarparu siop goffi sy'n croesawu cŵn a gweithdy crefftau.

Llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i roi pecyn cyllido £650,000 at ei gilydd trwy forgais gan y Charity Bank, benthyciad gan y Gronfa Fuddsoddi Cymunedol a grant / benthyciad gan y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol. Llwyddodd ymgyrch codi arian i godi £225,000 arall.

'Mae prynu'r ganolfan achub wedi gweddnewid y ffordd mae'r elusen yn gweithredu,' yn ôl Vanessa.  'Mae'r Ymddiriedolwyr wedi rhoi cymorth amhrisiadwy, gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau statudol ac yn cydymffurfio ag arferion da ac maent hefyd wedi defnyddio eu sgiliau proffesiynol i roi cymorth ymarferol yn ogystal â chymorth strategol.'

YR AIL ORAU - Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Cafodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ei sefydlu yn 1973, ac yn hanesyddol roedd ei hymddiriedolwyr yn bobl a oedd â chysylltiad blaenorol â'i gwaith, medd y Prif Weithredwr Martin Pollard.

'Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld trawsnewidiad llwyr, gyda newid sylfaenol mewn safonau llywodraethu a phroffesiynoldeb,' meddai.

Cafodd proses recriwtio dryloyw ac agored ei chyflwyno, i gynyddu amrywiaeth ar y bwrdd a chefnu ar broffil dynion 'gwyn, hŷn' a chaniatáu syniadau newydd sy'n adlewyrchu arferion gorau cyfoes i gael eu rhannu. Daeth hefyd yn Sefydliad Corfforedig Elusennol ac mae wedi mabwysiadu cyfansoddiad am y tro cyntaf. 

Yn 2015, dyfarnwyd cyllid prosiect Cymru dros Heddwch (dros £900,000) a Chymru o Blaid Affrica (£1.8 miliwn) gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru i WCIA.  Bu cynnydd o bump i 20 yn nifer tîm staff WCIA, gydag un o strategaethau'r Bwrdd yn arwain at gynhyrchu ffrwd refeniw gwell trwy asedau eiddo.

'Erbyn heddiw, cyfyngwyd ar dymor yr ymddiriedolwyr - hyd at dri thymor o dair blynedd - ac mae rowndiau rheolaidd o recriwtio agored ar gyfer y Bwrdd,' medd Martin Pollard.  'Mae ymddiriedolwyr yn cael eu hadolygu i ganfod sgiliau, profiad a gwybodaeth, ac rydym yn recriwtio i lenwi bylchau a chynyddu amrywiaeth. Mae'r Pwyllgor Llywodraethu, sy'n cael ei gadeirio gan yr Is-gadeirydd, yn cynnal arolwg blynyddol o ymddiriedolwyr i chwilio am ffyrdd o gryfhau trefniadau llywodraethu.'

YR AIL ORAU - Headway Caerdydd a De-ddwyrain Cymru

Mae Bwrdd o 10 aelod wedi'i leoli yn Ysbyty Rookwood wedi bod yn gwella ac yn tyfu'r mudiad yn barhaus gan sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff yn cael y profiad gorau posibl, yn ôl Swyddog Codi Arian a Chyfathrebu Headway Lucy Lawler.

Bu'r ymddiriedolwyr yn llwyddiannus yn ddiweddar wrth gyrraedd safonau Llywodraethu Da Headway UK, sy'n dangos rhagoriaeth mewn penderfyniadau, cydymffurfiaeth, diogelu, rheoli cyllid, sicrhau ansawdd, ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gwirfoddolwyr, a chyfathrebu a rheoli 120 o aelodau.

Mae un o'r ymddiriedolwyr diweddaraf yn ddefnyddiwr gwasanaeth, sy'n gaffaeliad 'anhygoel' i'r bwrdd - gan roi syniad o sut beth yw byw ag anaf a gafwyd i'r ymennydd, yn ogystal â phrofiad o wasanaethau'r elusen.

Y tu allan i'r cyfarfodydd a drefnir, mae'r Bwrdd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel asesiadau risg, cyfweliadau a chynadleddau.

'Mae ein hymddiriedolwyr yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu'n fawr gan ein staff,' ychwanegodd Lucy Lawler. 'Mae eu hymrwymiad i'n helusen yn rhyfeddol, ac mae twf y mudiad dros y blynyddoedd diwethaf yn brawf o'u hymroddiad a'u gwaith caled hwy.'

 

Y wobr am godi arian yn arloesol

ENILLYDD - Mudiad Meithrin

Cododd y mudiad gofal ac addysg blynyddoedd cyfrwng Cymraeg Mudiad Meithrin bron i £15,000 mewn un diwrnod yn sgil 'Y Parti Pyjamas Mwyaf yn y Byd' fis Mai'r llynedd.

Nod y mudiad oedd cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd codi arian i'r Cylchoedd Meithrin fel elusennau lleol sy'n cael eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol.

Roedd pawb a fynychodd y parti pyjamas yn cyfrannu £1 yr un, gyda'r arian a godwyd yn cael ei roi i'r Cylch Meithrin fel rhan o'r ymdrechion parhaus i godi arian. Cafwyd nawdd a chymorth hefyd gan y gwneuthurwyr pyjamas o'r Bala, Aykroyds & Sons.

'Ar ôl misoedd o gynllunio, cydweithio â phartneriaid a gwaith hyrwyddo, cafodd dros 400 o ddigwyddiadau eu cynnal ar un diwrnod gyda 90% o Gylchoedd Meithrin - mae tua 350 ohonynt - yn cymryd rhan,' meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllïan Lansdown Davies.
 
Hefyd roedd 21 o ysgolion cynradd, 66 o enwogion, 18 o grwpiau Cymraeg i Blant, sawl cangen Merched y Wawr, swyddfeydd a mudiadau eraill yn cymryd rhan yn yr hwyl.

'Ein nod oedd torri record y byd am nifer y bobl mewn un parti pyjamas, a oedd yn 2,004 ar y pryd, ac felly codi swm cyfatebol o arian,' meddai Dr Lansdown Davies.  'Yn y diwedd, codwyd £14,693 - dros saith gwaith yn fwy na'r targed) gyda 8,750 o bobl yn cymryd rhan mewn dros 300 o bartïon pyjamas!

'Roedd y diwrnod yn gymaint o lwyddiant nes ein bod yn awr o dan bwysau i gynnal digwyddiad blynyddol ac mae partneriaid fel S4C yn gofyn am ein cyngor ar gynnal dathliadau undydd o'r fath.'


YR AIL ORAU - The Wallich

Gan eu bod yn rhannu pryderon The Wallich am nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yng nghanol dinas Caerdydd ac yn awyddus i helpu, cytunodd John Lewis i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mater a hefyd annog eu cwsmeriaid i wneud eu rhan i helpu.

'Buom yn cydweithio'n glos â'r adran ddilladau i feddwl am syniad ymarferol a chreadigol i godi arian i The Wallich ac i ddangos bod John Lewis hefyd yn poeni am ddigartrefedd', medd Rheolwr Codi Arian Corfforaethol yr elusen, Mike Walmsley.

Dyluniwyd One Knit Wonder™ fel anrheg fechan i annog pobl i wau. Roedd pob pecyn yn cynnwys pelen o wlân, gweill gwau a phatrwm gwau syml y gellid ei lawrlwytho. Roedd y pecyn yn annog pobl i wisgo'r het, eu rhoi i rywun annwyl neu ei rhoi i rywun sy'n cysgu ar y stryd. 

'Roedd y syniad wedi'i anelu at gwsmeriaid John Lewis i roi rhodd o wau i rywun y Nadolig hwnnw ac i helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd ar yr un pryd,' meddai Mike Walmsley. 

'Cytunodd Harlequin Printing and Packaging i noddi'r gwaith o gynhyrchu'r pecyn a chyflenwodd John Lewis Caerdydd y deunyddiau roedd eu hangen ar gyfer y pecynnau am ostyngiad sylweddol. Roedd hyn wedyn yn ein galluogi i brisio'r pecyn am £12, sy'n llawer is na phecynnau gwau eraill, a hyd yn oed wedyn roeddem yn gwneud elw o £10 i The Wallich am bob pecyn a werthwyd.

'Roeddent i gyd wedi'u gwerthu o fewn tridiau cyn y Nadolig a gwnaethpwyd elw gros o £15,120 ar yr holl ymgyrch - 1,260 o unedau, sy'n cyfateb i £12,600 o elw.

'Mae effaith hyn i gyd ar The Wallich wedi bod yn sylweddol. Mae gennym bartneriaeth â manwerthwyr uchel eu parch ac sy'n datblygu fel cyfleoedd ac incwm pellach yn y dyfodol, yn ogystal ag ymestyn allan i gynulleidfa newydd i hyrwyddo ein gwaith. Yn bwysicach na dim, bydd yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl agored i niwed i adael y strydoedd ac i lety diogel trwy gydol 2018.'


YR AIL ORAU - Cerdd â Gofal

Mae Cerdd â Gofal wedi'i leoli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Nghaerdydd, sydd â chyflenwad diddiwedd o fyfyrwyr sy'n barod i wirfoddoli, ac sydd nid yn unig yn awyddus i helpu'r elusen ond sydd hefyd yn chwilio am gyfleoedd i berfformio.

'Rydym yn defnyddio cerddorion proffesiynol i godi calonnau pobl sydd mewn sefydliadau gofal iechyd,' meddai Robert Aitken, Cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru.  'Ond hefyd cafwyd syniad am gynllun i ddefnyddio cerddorion gwirfoddol trwy ofyn iddynt berfformio mewn mannau cyhoeddus o gwmpas Caerdydd.'

Ers hynny, mae'r elusen wedi ehangu i gynnwys perfformiadau rheolaidd yng Nghanolfan Siopa Dewis Sant a'r tu allan i archfarchnadoedd ar hyd a lled De Cymru.

'Mae'r galw am gyngherddau'r elusen yn codi o flwyddyn i flwyddyn,' yn ôl Robert Aitken.  'Y llynedd, roedd angen i ni godi tua £110,000 i ateb y galw hwnnw. I elusen fach fel Cerdd â Gofal, mae hynny'n dipyn o dasg. Ond po fwyaf o arian y gallwn ei godi, po fwyaf o berfformiadau y gallwn eu rhoi. 

'Mae defnyddio myfyrwyr i berfformio mewn cyngherddau codi arian wedi gwneud cyfraniad bach ond pwysig at y cyfanswm hwnnw.  Hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r gweithgarwch hwn wedi codi mwy na £3,500 - mae hynny'n fwy na 3% o'r hyn y mae angen i ni ei godi bob blwyddyn, a thalp sylweddol o'n targed blynyddol - ac roedd yr holl waith wedi'i wneud gan wirfoddolwyr.

'Er bod ein hamcanion elusennol yn canolbwyntio ar bobl mewn gofal iechyd, mae defnyddio cerddoriaeth i godi arian hefyd yn ein galluogi i rannu ein mwynhad o gerddoriaeth â mwy o bobl - ac ni all hynny fod yn beth drwg!'

Gwobr am gynhwysiant digidol
Cefnogir gan
Cymunedau Digidol Cymru

ENILLYDD - Innovate Trust

Mae Ymddiriedolaeth Innovate o Gaerdydd yn rhedeg prosiect 'cynorthwyydd personol deallus' i hybu cynhwysiant 'rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed' yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd ei hun.

Mae'r elusen yn gosod Dyfeisiadau Cynorthwywyr Personol Deallus (IPA) sy'n gweithio â llais - fel Amazon Echo a Google Home - yng nghartrefi pobl ag anableddau dysgu i'w helpu i fyw yn fwy annibynnol.

'Mae pobl anabl yn aml yn cael eu cau allan o'r byd digidol neu maent yn cael eu gorfodi i ddefnyddio technoleg sydd wedi'i chreu'n unswydd ar gyfer pobl anabl,' medd Swyddog Ymchwil Ymddiriedolaeth Innovate Kieran Vass.

'Yn aml nid yw'r dechnoleg hon yn ateb y galw, neu mae'n gostus ac yn gallu creu stigma. Trwy ddefnyddio technoleg IPA brif ffrwd, mae ein buddiolwyr yn gallu bod yn rhan o'r byd digidol i wella eu bywydau. Er enghraifft, gall buddiolwyr yn awr osod larwm i'w hatgoffa i gymryd eu meddyginiaeth heb help staff - sy'n rhoi mwy o ryddid a rheolaeth iddynt dros eu bywydau.'

Mae'r prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, consortiwm ymchwil Nesta, YLab, y Labordy Arloesedd Cyhoeddus yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, grwpiau rhieni cydweithredol ac Amazon.


YR AIL ORAU - Derwen Cymru a Solas

Mae prosiect 'Dysgu Gyda'n Gilydd' y gymdeithas tai pobl hŷn Derwen Cymru wedi bod yn gweithio ar y cyd â'r darparwyr tai lleol eraill Gwalia a Solas i hyrwyddo'r prosiect ac maent yn recriwtio ac yn helpu gwirfoddolwyr ifanc â hanes o ddigartrefedd, byw mewn gofal a chamddefnyddio sylweddau.

'Rydym yn awr yn edrych ar bartneriaethau a syniadau newydd ac ar wahanol dechnolegau i gynnwys y preswylwyr hynny sydd angen ychydig bach o hwb,' meddai'r Swyddog Heneiddio'n Egnïol Harriet Bleach.  'Un enghraifft o hyn yw datblygiad y prosiect Dysgu Gyda'n Gilydd â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i gynnwys creu storïau digidol ac atgofion am eu haddysg a'u dyddiau ysgol.
 
Mae'r canlyniadau positif hyd yma'n cynnwys preswylwyr a'r gwirfoddolwyr yn mwynhau'r agwedd gymdeithasol yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, arbed arian, meithrin hyder a chynyddu annibyniaeth.

Mae Derwen Cymru hefyd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd i helpu staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol, sy'n cynnwys cyrsiau hyfforddi sy'n cael eu rhedeg gan Gymunedau Digidol Cymru a TPAS, meithrin hyder i greu cynnwys ar gyfer gwefan a chyfryngau cymdeithasol Derwen.

Mae staff Derwen yn cyfeirio preswylwyr at y Dyddiau Gwener Digidol sy'n cael eu cynnal yn llyfrgelloedd Casnewydd, tra bydd preswylwyr sydd angen ymweliadau cartref yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â phrosiect Online Today RNIB ac Age Cymru Gwent.
 
'Nod Derwen yw sicrhau bod gan staff yr wybodaeth a'r brwdfrydedd i ddatblygu dull digidol cyffredinol Derwen,' yn ôl Harriet Bleach.  'Rydym yn ceisio rhoi'r dewis i breswylwyr i edrych y gallant fynd ar-lein ac i ddarganfod y buddiannau a ddaw yn sgil hynny mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy.'


YR AIL ORAU - Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn (CAHA) wedi llunio Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol, gan gyflenwi cyfrifiaduron wi-fi i'w tîm cyngor ariannol.

Mae'r tîm yn helpu preswylwyr i ddefnyddio'r prif raglenni ar-lein - fel Credyd Cynhwysol - ac mae wedi trefnu i Gymunedau Digidol Cymru ddarparu hyfforddiant Hyrwyddwyr Digidol, gan roi hwb i hyder staff a phreswylwyr a dysgu technegau i annog eraill i fynd ar-lein.

Mae'r cynllun gweithredu hefyd wedi arwain at gyflwyno sesiynau 'barod am waith' gan CAHA sydd wedi'u hanelu at breswylwyr di-waith - sy'n cynnwys cymorth i chwilio ac i wneud cais am swyddi ar-lein - ac i godi ymwybyddiaeth o becynnau cymorth ar-lein fel gwirwyr budd-daliadau a safleoedd cymharu prisiau gwasanaethau.

Mae'r gymdeithas tai wedi cydweithio â Chymunedau yn Gyntaf i drefnu cyrsiau cyfrifiadurol ar gyfer pobl sydd eu hangen ac mae wedi hyrwyddo prosiect Vision Support Online Today RNIB ar gyfer pobl â man ar eu golwg, gan drefnu eu bod yn cyflwyno sesiynau i breswylwyr yng Nghartref Gofal Ychwanegol Llys Eleanor, er enghraifft.

Mae'r cynllun hefyd wedi helpu i gynnal digwyddiadau 'sinema dawel' lle bu preswylwyr hŷn yn hel atgofion wrth wylio ffilmiau du a gwyn i gyfeiliant cerddoriaeth fyw.

'Mae CAHA yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni Cymru Ddigidol,' yn ôl y Swyddog Datblygu Cymunedol Louise Blackwell.  'Gan weithio mewn partneriaeth â llawer o asiantaethau, rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu sy'n cael eu haddasu i ddiwallu anghenion unigryw'r preswylwyr i'w helpu i ddefnyddio'r rhyngrwyd a datblygu sgiliau digidol.'


YR AIL ORAU - Gwynedd Ddigidol

Mae prosiect Gwynedd Ddigidol/ Digital Gwynedd, a sefydlwyd gan yr elusen genedlaethol Dinasyddion Ar-lein, yn bartneriaeth sy'n rhoi pwyslais ar helpu pobl leol i wella eu sgiliau rhyngrwyd ac i fwynhau buddiannau cymdeithasol ac economaidd bod ar-lein.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae wedi recriwtio 140 o hyrwyddwyr digidol trwy drefnu digwyddiadau hyfforddi yn y gweithle, ffurfio is-grŵp i ganolbwyntio ar hygyrchedd ar-lein ar gyfer pobl anabl, creu rhwydwaith cymorth cymunedol rhwng cymheiriaid a chodi ei broffil trwy gyfryngau cymdeithasol (1,000 a mwy o ddilynwyr ar twitter), cylchlythyrau chwarterol (dros 400 o danysgrifwyr) a chyfarfodydd rheolaidd o'r rhwydwaith.

Mae ei ymgyrchoedd wedi cael eu cynllunio i apelio at y bobl â'r angen mwyaf, fel hawlwyr budd-dal tai, ac mae sesiynau a digwyddiadau dros dro wedi cael eu cynnal yng nghanol y cymunedau mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd, marchnadoedd da byw a meddygfeydd meddygon teulu.

'Ymhlith ein llwyddiannau mwyaf mae denu 35 o fudiadau fel partneriaid yng Ngwynedd Ddigidol, sy'n gweithio â'i gilydd i wella'r gallu i hyrwyddo cynlluniau trwy redeg ymgyrchoedd marchnata ar y cyd,' meddai Cydlynydd Gwynedd Ddigidol Daniel Richards.

'Rydym wrthi'n barhaus yn chwilio am ffyrdd gwell o wella sgiliau a grymuso staff a gwirfoddolwyr i fod yn Hyrwyddwyr Digidol, gan eu bod yn hanfodol i symbylu a helpu eraill yn y gymuned â thechnoleg.'

Y wobr am godi arian yn arloesol - ar gyfer timau codi arian sydd wedi llwyddo i greu ymgyrch lewyrchus ac arloesol i godi arian mewn cyfnod anodd.

Gwobr Class Networks am y mudiad a edmygir fwyaf

ENILLYDD - Hope Rescue

Yn ogystal ag ailgartrefu cannoedd o gŵn mewn angen, mae Hope Rescue yn cynnal cynllun 'Gobaith yn y Gymuned', sy'n darparu bwyd anifeiliaid anwes a mân nwyddau eraill i fanciau bwyd a mudiadau cymorth gan helpu perchnogion ar incwm isel a'r rheini sy'n byw ar y stryd, cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith, ymgyrchu dros newid deddfwriaethol a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol drwy brosiectau addysgiadol a chymunedol.

Mae'r cynllun seibiant yn cynorthwyo perchnogion mewn argyfwng - er enghraifft, y rheini sy'n dioddef cam-drin domestig, digartrefedd neu driniaeth ysbyty - i gadw eu cŵn.

Mae Jennifer Coleman-Humphreys o Benarth yn cefnogi'r elusen ers mabwysiadu ei chi Lacey ganddynt.  'Dwi bellach yn gefnogwr brwd o waith Hope ac mae'n deg dweud eu bod yn llawer iawn mwy na "dim ond" mudiad achub anifeiliaid,' meddai.

'Fe symudon nhw i'w canolfan achub newydd fis Ebrill 2017, ar ôl bod yn gweithredu cyn hynny drwy rwydwaith o gartrefi maeth a llety preifat.

'Ers hynny, maent wedi cael effaith enfawr ar y gymuned leol drwy eu rhaglen allgymorth, ac wedi gorfod cynyddu eu gwaith codi arian yn sylweddol er mwyn talu am gostau rhedeg y ganolfan newydd.  Gwneir hyn oll gan dîm bach iawn o staff cyflogedig, a gefnogir gan wirfoddolwyr ymroddedig iawn.' 


YR AIL ORAU - Ymddiriedolaeth y Tywysog yng  Nghymru

Nod Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru yw cefnogi pobl ifanc 11 i 30 mlwydd oed sy'n ddi-waith neu'n ei chael yn anodd yn yr ysgol drwy roi'r cyfle iddynt weddnewid eu bywydau drwy raglenni am ddim sy'n darparu'r cymorth ymarferol ac ariannol y mae arnynt ei angen wrth eu helpu i ddatblygu sgiliau allweddol.

'Yr adborth gan gyflogwyr yw eu bod yn hapus dros ben â safon y bobl ifanc sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, sy'n profi pa mor boblogaidd yw'r rhaglen bellach oherwydd yr hyfforddiant o safon a'r canlyniadau rhagorol mae'r rhaglenni wedi'u cyflawni,' meddai Yvonne Hughes o'r Adran Gwaith a Phensiynau - Canolfan Byd Gwaith.

'Mae pob person ifanc yn elwa o gymorth un wrth un ac yn cael cynnig cymorth/mentora pellach am hyd at chwe mis - mae'r ffigyrau'n dangos eu bod y llynedd wedi grymuso 58,000 o bobl ifanc i weddnewid eu bywydau.

'Dwi'n meddwl mai Ymddiriedolaeth y Tywysog yw'r peth gorau ers cyn cof!' Ychwanegodd Yvonne.  'Mae'n rhoi hwb i hyder a chymhelliant pobl ifanc fel y gallant barhau i anelu'n uchel.'


YR AIL ORAU - Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE

Mae Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE, yn Hen Golwyn, Conwy yn gweithio gyda chymunedau, grwpiau trydydd sector a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus i gydgynhyrchu ystod eang o weithgareddau, digwyddiadau a phrosiectau.

'Yn y bôn, maent yn hwyluso eraill - pobl ar ymylon cymdeithas gan mwyaf - i adrodd eu hanes,' meddai Mark John-Williams o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, rhwydwaith a ariennir gan y Loteri sydd â thros 1,000 o hyrwyddwyr cydgynhyrchu.

Mae gwaith TAPE yn cynnwys cydgynhyrchu gweithdai celfyddydau creadigol sy'n arwain at berfformiadau cerddoriaeth a ffilm ac arddangosfa gelf; a mynd ati gyda phobl sy'n teimlo'n unig i greu ffilm ynglŷn â phwysigrwydd cyfeillgarwch a chymuned, a gafodd ei ddangos i'r cyhoedd yng Ngŵyl Arfordir y Gogledd.

'Mae gallu naturiol TAPE i gynnwys pawb, yn enwedig y rheini ar yr ymylon pellaf, yn benigamp,' ychwanegodd Mark John-Williams.  'Maent yn wych am ysgogi newid ac am hwyluso, gan arddel diwylliant o alluogi cyfiawnder cymdeithasol a defnyddio creadigrwydd i ryddhau asedau pobl i gyfleu materion cymdeithasol a chymunedol arbennig o bwysig.'


YR AIL ORAU - Groundwork Gogledd Cymru

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn benderfynol o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru gan ganolbwyntio ei weithgareddau ble y gall wneud y gwahaniaeth mwyaf mewn cymunedau sy'n wynebu anfantais.

Mae'n mynd i'r afael â phroblemau fel diweithdra, a thlodi o ran tanwydd, bwyd a dodrefn, gan gydweithio â mudiadau ledled y Gogledd i sicrhau dealltwriaeth well o'r amgylchedd naturiol a ffyrdd o'i warchod.

'Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi helpu i arbed £24,000 oddi ar filiau ynni pobl mewn tlodi tanwydd drwy eu cynorthwyo i newid cyflenwr a gosod bron i 2,000 o fesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 150 o gartrefi,' meddai Alison Hill o Bartneriaeth Parc Caia. 

'Gwnaed argraff arna'i hefyd gan eu gweithgareddau sy'n cefnogi pobl ifanc i gael gwaith, gan gynorthwyo 135 o bobl ifanc drwy eu tîm gwyrdd gyda chyfradd cadw o 89%.

'Mae amrywiaeth eu gwaith a'r ymroddiad i bobl Cymru yn anhygoel.  Mae fy nhîm ym Mhartneriaeth Parc Caia wedi cynnal prosiectau efo nhw a dywedodd pob un fod staff Groundwork yn llawn angerdd, ymroddiad a brwdfrydedd wrth roi eu prosiectau ar waith.'  


YR AIL ORAU - Age Connects Morgannwg

Mae Age Connects Morgannwg o'i bencadlys ym Mhontypridd yn gweithio ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, gan ddarparu gwasanaethau megis gwybodaeth a chyngor, allgymorth yn y gymuned, cymorth gartref, torri ewinedd - a ioga a dawnsio o'ch cadair.

'Maent yn gallu'ch helpu gydag unrhyw beth - mae'r staff bob amser yn garedig ac o gymorth a does dim byd yn ormod o drafferth iddynt,' meddai Ysgrifennydd Fforwm Rhondda 50+ Lynda Corre.

'Mae Age Connects Morgannwg yn fudiad y gallwch deimlo'n gwbl ddiogel ynddo - rydych yn gwybod eu bod yn gofalu am eich buddiannau chi bob amser.  Pa broblem bynnag sydd gennych maent ar gael i chi, maent yn sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed a pherygl yn cadw'n ddiogel.

'Maent hefyd yn annog pobl hŷn i godi llais dros yr hyn mae arnynt ei eisiau ac i ysgogi newid.  Ni allaf feddwl am yr un mudiad arall sy'n mynd yr ail filltir honno i sicrhau bod bywydau pobl hŷn yn cael eu gwella ym mhob ffordd.'

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghori Pobl Hŷn RhCT Angela Tritschler fod Age Connects yn darparu gwasanaeth i gefnogi pobl sy'n gadael ysbyty.  Bu'r gwasanaeth yma'n amhrisiadwy i bobl wrth iddynt ddychwelyd i'w cartref, gan gynorthwyo i siopa, meithrin hyder pobl a hefyd helpu gydag iselder sy'n aml yn gallu codi ar ôl cyfnodau yn yr ysbyty.


YR AIL ORAU - Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP)

Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP) a'i chwmni menter gymdeithasol Randomz yn cael eu parchu'n fawr am y cyfleoedd maent yn eu darparu.  CCYP oedd y cyntaf i ennill Gwobr Efydd Nod Ansawdd Llywodraeth Cymru am Waith Ieuenctid yng Nghymru, yna'r Arian, cyn iddi ddod y mudiad cyntaf i ennill y Wobr Aur.

Un o'i rhinweddau yw ei pharodrwydd i gydweithio â'r sector gwaith ieuenctid ehangach a'r trydydd sector, y sector cyhoeddus ac asiantaethau eraill gan gynnwys yr heddlu, meddai Paul Glaze o CWVYS (Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol). 

'Mae gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru yn mynd drwy newidiadau sylweddol o ran sut maent yn diwallu anghenion pobl ifanc - a rhaid cyflawni hyn yng nghyd-destun llai o adnoddau ariannol, angen i fod â'r gallu i addasu, angen i fod â galluoedd rhagorol i reoli newid wrth ddylunio a gweithredu atebion arloesol ar yr un pryd,' ychwanegodd.

'Mae gan CCYP beth wmbreth o'r sgiliau a'r galluoedd hyn.  Mae pob un o'i gweithwyr, ei gwirfoddolwyr a'i phobl ifanc yn barod i dorchi llewys; maent yn gwybod bod ymdrechion enfawr yn arwain at fudd i bawb - hyfforddiant, gwirfoddoli, dysgu yn seiliedig ar waith, swydd, prentisiaethau a datblygu hyder, cymhelliant a hunan-barch ymysg pobl ifanc.

'Mae CWVYS yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â CCYP a'r gwaith hynod o bositif a phwerus mae'n ei ddarparu ar ran pobl ifanc Torfaen a'r tu hwnt.'


YR AIL ORAU - Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru

Cyn i gleifion a'u teuluoedd sefydlu'r elusen - gyda chymorth therapyddion yn Ysbyty Rookwood - ychydig iawn o gymorth yr oedd cleifion a oedd yn gadael ysbyty yn ei gael i ddygymod â chanlyniadau difrifol anaf i'r ymennydd, ac i addasu iddynt.

Mae Headway yn dod â phobl at ei gilydd i gefnogi ei gilydd ac yn cynnig ffordd o'u helpu sy'n holistaidd, yn bersonol ac wedi'i deilwra i'r unigolyn.  'Mae'n fudiad ymatebol a hyblyg iawn - os gwelir bwlch, datblygir gwasanaeth priodol,' meddai Cari Sowden-Taylor o gwmni Cyfreithwyr Hugh James.

Mae'r gwasanaeth budd-daliadau lles a chwnsela yn darparu cymorth un wrth un i leihau'r effaith emosiynol, y straen a'r pryder ariannol a all godi gydag anaf i'r ymennydd.

'O ystyried pa mor fach yw'r mudiad - 15 aelod o staff llawn a rhan amser - mae'n fwy na chyfanswm ei rannau,' ychwanegodd Cari.  'Mae Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru yn ysbrydoliaeth i grwpiau cymunedol.  Mae'n dangos bod modd cyflawni llawer iawn gydag agwedd benderfynol, ymroddiad a chefnogaeth werth chweil.'

'Dydyn nhw ddim wedi aros i bethau ddigwydd - maent wedi gwneud iddynt ddigwydd ac wrth wneud hynny, wedi gwella bywydau cannoedd o bobl y mae anaf i'r ymennydd wedi effeithio arnynt.'

Dywedodd Julie Smith, o Case Management Cymru, na fyddai gan lawer o bobl nunlle i droi heb Headway.  'Maent yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o ofal pobl i sicrhau bod eu gofal wedi'i gydlynu a'i fod yn gyson,' ychwanegodd.

'Serch hynny, i lawer o bobl sydd wedi dioddef anaf i'r ymennydd, gan fod eu hanableddau yn rhai cudd, maent yn gallu disgyn rhwng gwasanaethau.  Mae Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru yn darparu rhwyd achub hanfodol sy'n sicrhau nad yw pobl yn cael eu hesgeuluso na'u hanghofio.'