27 Chwef 2018
Ar safle blog WCVA: Mae Emma Burns yn Bartner ac yn Bennaeth Gwasanaethau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yng nghwmni cyfreithiol Hugh James. Yn y blog yma, mae hi’n sôn am yr heriau sy’n wynebu’r trydydd sector pan ddaw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd i rym fis Mai, a pham mae’n bwysig cadw llygad ar y wybodaeth ddiweddaraf.

'Wrth i'r dyddiad hollbwysig agosáu pan ddaw'r GDPR i rym, mae
angen i bob mudiad sicrhau bod eu 'tŷ mewn trefn', a hynny ar
fyrder cyn i'r drefn newydd gael ei chyflwyno ar 25 Mai 2018.
'Heriau i'r trydydd sector
'Er y bydd y GDPR yn effeithio ar bob math o fudiadau mae yna
rannau arbennig o heriol i'r rheini yn y trydydd sector, oherwydd
eu hangen i ymgysylltu â'r cyhoedd.
'Er gwaethaf sicrwydd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i'r
trydydd sector y bydd yn parhau i fod ag agwedd bragmataidd pan
ddaw hi at ddirwyon, ac na fydd yn ceisio gwneud esiampl o
elusennau am fân dramgwyddau, mae'n amhosib anwybyddu'r potensial i
ddirwyon llawer iawn mwy gael eu rhoi. Yn hytrach na dirwy uchaf o
£500,000, fe fydd hi bellach yn bosib cael eich dirwyo unrhyw swm
hyd at 10-20 miliwn Ewro neu 2-4% o drosiant byd-eang gan ddibynnu
ar sut y torrwyd y rheolau diogelu data newydd...'
Gallwch ddarllen mwy ar wcva.tumblr.com