27 Medi 2017

Mae Llywodraeth Cymru am greu Cymru sy'n iach ac egnïol, yn ffyniannus a diogel, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig – ond a roddir rôl i’r amgylchedd i helpu i sicrhau llwyddiant yn y meysydd allweddol hyn?


Cefndir 'Ffyniant i Bawb' 

Mae Llywodraeth Cymru Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yn amlinellu'r ymrwymiadau y byddwn yn eu gwireddu yn ystod y 5 mlynedd nesaf er mwyn helpu i sbarduno gwelliant a gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pawb yng Nghymru.

Mae Ffyniant i bawb: y strategaeth genedlaethol yn mynd i'r afael â'r ymrwymiadau hynny, yn eu rhoi mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut y byddant yn cael eu gwireddu drwy ymdrech ar y cyd gan bob rhan o sector cyhoeddus Cymru.

Ochr yn ochr â'r strategaeth genedlaethol, rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad llesiant sy'n esbonio sut yr ydym wedi defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i helpu i ddatblygu'r strategaeth genedlaethol ac i nodi un set o amcanion a chamau ar gyfer y llywodraeth.

WG Programme For Government (C)

Pa le sydd gan yr amgylchedd?


Mae Environet wedi pori drwy'r strategaeth genedlaethol ac amlygu ble mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at yr amgylchedd, y newid yn yr hinsawdd, ac adnoddau naturiol, a'r rôl y byddant yn ei chwarae yn siapio'r pedwar maes allweddol ac yn gweithredu ynddynt:


Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau ffyniant i bawb

(tudalen 2)

Mae ffyniant yn golygu mwy na chyfoeth materol − mae'n golygu bod pob un ohonom yn cael bywyd o ansawdd da, ac yn byw mewn cymunedau cryf a diogel.

(tudalen 3)

Mae gennym hanes cryf o wella cyfraddau ailgylchu, sy'n ein rhoi ar y brig yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd. Fodd bynnag, mae disgwyl i'r newid yn yr hinsawdd barhau, ac mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid inni leihau allyriadau carbon ymhellach, gan fynd ati i reoli'r peryglon i iechyd, i lesiant ac i gymunedau yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

(tudalen 5)

Mae penderfyniadau cynllunio yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd yr unigoloyn. Maent yn penderfynu ble y caiff cartrefi eu hadeiladu, ble y caiff gwasanaethau eu darparu, ac ar ansawdd yr amgylchedd lleol; ac maent yn hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a mynediad at fannau agored. Rhaid wrth system gynllunio briodol er mwyn inni fedru cyflawni'r amcanion sydd gennym yn y strategaeth hon.

Mae sut rydym yn mynd ati i gynllunio'n penderfyniadau buddsoddi cyfalaf yn gallu cael effaith fawr ar yr economi. Mae hefyd yn helpu sefydliadau gwahanol i ddarparu eu gwasanaethau mewn un lle, ac yn golygu bod llai o angen i unigolyn deithio. Drwy'r strategaeth hon ar ei hyd, rydym yn ymrwymo i gyd-leoli gwasanaethau, a dim ond drwy integreiddio'r ffordd rydym yn gwneud ein penderfyniadau buddsoddi y gall hynny ddigwydd.


Prosperous and Secure


(tudalen 7)

Nid yw'r holl ysgogiadau polisi sy'n effeithio ar yr economi yn nwylo Lywodraeth Cymru. Er hynny, ein nod canolog yw sicrhau ffyniant i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd fwy integredig a phenodol i gael yr effaith fwyaf bosibl. Mae hynny'n golygu manteisio ar ymdrechion y llywodraeth gyfan ym meysydd iechyd, addysg, a'r amgylchedd, yn ogystal â datblygu economaidd.

Mae gan rannau gwahanol o Gymru gryfderau economaidd gwahanol, ac felly mae angen inni hyrwyddo twf a datblygiad mewn ffordd sy'n adlewyrchu hynny.

Byddwn yn cefnogi busnesau heddiw i weithio'n fwy effeithiol a chynaliadwy, gan sicrhau ein bod yn creu amgylchedd a fydd yn meithrin busnesau'r dyfodol, gan adeiladu ar adnoddau dynol, creadigol a naturiol Cymru, a chan wella ein cydnerthedd economaidd ac amgylcheddol. Mae creu economi gynaliadwy yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi ein bod yn gadael gwaddol cryf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

(tudalen 9)

Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg

Bydd y ffordd newydd hon o weithio, a fydd â ffocws rhanbarthol, yn cael ei hadlewyrchu ar draws pob rhan o'n gwaith, gan gynnwys diwygio llywodraeth leol. Bydd hefyd yn rhoi gwasanaethau cyhoeddus mewn gwell sefyllfa i fod yn bartner gweithredol gyda diwydiant ym mhob agwedd ar eu gwaith, o sgiliau i gynllunio, ac o gynllunio i drafnidiaeth.

Byddwn yn:
• manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil prosiectau seilwaith mawr, megis Wylfa Newydd a Morlyn Llanw Bae Abertawe.
• darparu cymorth mwy effeithiol ar gyfer datblygu cadwyni cyflenwi a chlystyrau lleol, fel bod gwerth economaidd yn cael ei gadw'n lleol, a bod mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu yn nes adref.

(tudalen 10)

Ysgogi twf cynaliadwy a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd

Byddwn yn meithrin ffyniant mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn cynnal amgylchedd naturiol prydferth Cymru, sy'n sicrhau bod y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol yn parhau i elwa, ac sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Mae cydnerthedd economaidd wrth wraidd pob uchelgais sydd gennym ar gyfer Cymru. Dim ond drwy arloesi y gall busnesau addasu a bod yn fwy cynhyrchiol a chynaliadwy. Ar yr un pryd, mae angen inni greu amgylchedd sy'n meithrin busnesau'r dyfodol, ac sy'n ymateb i'r angen i ddatblygu mwy ar yr economi carbon isel.

Un o brif asedau Cymru yw'n hadnoddau naturiol toreithiog sydd wedi mowldio'n heconomi dros ganrifoedd. Heddiw, mae'r adnoddau hynny'n cefnogi amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys diwydiant twristiaeth a sector hamdden bywiog, diwydiant amaethyddol sy'n cynnal cymunedau gwledig hyfyw, a sector bwyd a diod cynhenid o safon fyd-eang.

Ein nod yw manteisio ar y cyfleoedd economaidd a gynigir gan adnoddau naturiol Cymru, gan feithrin eu cydnerthedd i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol. Bydd cynhyrchu ynni carbon isel a gwneud mwy o ddefnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynlluniau ynni cymunedol, yn fodd i leihau allyriadau carbon yn ogystal â bod o fudd i ardaloedd lleol.

Drwy ddefnyddio llai o ynni, gallwn leihau costau i fusnesau, ond gallwn hefyd arbed arian i aelwydydd. Mae gwella effeithlonrwydd ynni mewn tai yn arwain at wella iechyd, yn creu swyddi ac yn cefnogi busnesau lleol.

Byddwn yn:
• cyflwyno Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd, a fydd yn amlinellu cynllun defnydd tir 20 mlynedd i Gymru, yn llywio gwaith datblygu strategol, ac yn cael ei gefnogi gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
• pennu llwybr carbon isel gan roi eglurder a sicrwydd fel bod modd gweithredu a buddsoddi yn yr economi carbon isel drwy osod targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040.
• cyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'n gwasanaethau cyhoeddus, gan greu cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru wrth inni newid i economi carbon isel.
• sefydlu proses cydsynio bwrpasol ar gyfer seilwaith a fydd yn ymateb i anghenion busnesau a chymunedau, i gefnogi twf economaidd cynaliadwy, ac i ddatgarboneiddio'n cyflenwad ynni.
• gosod y trywydd ar gyfer economi sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon, gan adeiladu ar ein llwyddiant o ran ailgylchu a lleihau'r effeithiau y mae cynhyrchiant a defnyddio adnoddau yn eu cael ar yr amgylchedd.
• cyflwyno polisi amaethyddol a physgodfeydd i Gymru ar ôl gadael yr UE, a fydd yn cael ei gynllunio ar y cyd â rhanddeiliaid, i adlewyrchu anghenion y sector amaethyddol a'r sector pysgodfeydd yn y Gymru fodern a rheoli'r effeithiau ar yr amgylchedd.
• gweithio gyda phawb a fydd yn cael eu heffeithio i baratoi ar gyfer byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac ar gyfer sector amaethyddol cadarn.
• fel rhan o'n contract economaidd newydd, disgwyl i'r busnesau hynny sy'n cael cymorth oddi wrthym ymrwymo i leihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd.


Iach ac Egnïol


(tudalen 13)

Hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb

Byddwn yn:
• cefnogi ac yn annog cynnydd sylweddol yng ngweithgarwch corfforol pobl, gan sicrhau bod asiantaethau sy'n ymwneud â hyrwyddo ffyrdd mwy iach o fyw yn cydweithio, a chan fanteisio ar adnoddau naturiol Cymru.

• darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig i gyflawni'n nod o alluogi pobl i deithio mewn ffyrdd mwy egnïol, drwy gyfuno mathau gwahanol o drafnidiaeth gyda cherdded a beicio.

• buddsoddi mewn cartrefi i'w gwneud yn gynhesach ac i sicrhau eu bod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon, er mwyn gwella iechyd a lleihau costau tanwydd.

(tudalen 14)

Creu cymunedau mwy iach ac amgylcheddau gwell

Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng cymunedau ac yn darparu mwy o wasanaethau yn agosach i gartrefi pobl, gan gydnabod pwysigrwydd cymunedau a'r amgylchedd ehangach i iechyd da a llesiant.

Mae amrywiadau annerbyniol rhwng grwpiau a chymunedau gwahanol yng Nghymru o ran faint ohonynt sydd ag iechyd da, ac mae hynny'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Weithiau yr hyn sydd i gyfrif am afiechyd yw cysgod hirhoedlog y cyfnod diwydiannol, ond hefyd effaith heriol amodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gwael.

Ni ellir gorbwysleisio cyfraniad yr amgylchedd at iechyd da. Mae ansawdd yr aer, cartrefi da, mynediad i fannau gwyrdd, a chynlluniau arbed ynni i gyd yn helpu i greu'r amodau cywir ar gyfer gwell iechyd a llesiant a mwy o weithgarwch corfforol.

Byddwn yn:
• gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a hynny o ran llesiant unigol a mynediad at wasanaethau.

• lleihau allyriadau a gwneud gwelliannau hanfodol i ansawdd yr aer, drwy gynllunio, seilwaith, rheoleiddio a chyfathrebu am iechyd.


Uchelgeisiol ac yn Dysgu

(tudalen 18)

Sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir ar gyfer byd sy'n newid

Mae dyfodiad y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn golygu bod newidiadau mawr i'r economi, i'r amgylchedd ac i'n cymdeithas, a'r her wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gydnerth yn y dyfodol yw rhoi Cymru mewn sefyllfa i elwa ar hynny. Felly, mae angen sicrhau bod digon o gyfleoedd yn yr economi newydd i gymryd lle'r rheini y gellid eu colli yn yr hen economi, a bod pobl yn meddu ar y sgiliau i fanteisio arnynt.


Unedig a Chysylltiedig


(tudalen 19)

Mae cymunedau'n ffynnu os yw pobl yn gallu chwarae rhan lawn a gweithgar ynddynt i lywio eu hamgylchedd lleol, gan ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Rydym eisiau creu Cymru sy'n wlad o gymunedau cysylltiedig, ac mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr bod yr holl gysylltiadau angenrheidiol yn eu lle i'w tynnu ynghyd. Mae trafnidiaeth a seilwaith digidol yn hanfodol er mwyn darparu'r gwasanaethau y mae eu hangen arnom i barhau'n iach, i ddysgu, i gael gwaith ac i ddatblygu ffyniant.

(tudalen 20)

Datblygu cymunedau, diwylliant ac iaith sy'n gydnerth

Mae asedau cyhoeddus mewn cymunedau yn allweddol yn aml er mwyn rhoi mentrau lleol arloesol ar waith. Mae'r modd y cânt eu cynnig i grwpiau cymunedol yn gallu datgloi cyfleoedd i gymunedau ac arweinwyr wella ardaloedd lleol.

Byddwn yn:
• gweithio gyda chymunedau i helpu i gynnal cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl ynghyd, megis tafarndai, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, mannau gwyrdd, canolfannau celfyddydol a chanolfannau hamdden, gan helpu cymunedau i berchnogi asedau yn eu hardal leol.
• nodi cyfleoedd i fwy o bobl wirfoddoli, gan gynnwys gweithio gyda Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r trydydd sector i gyflwyno rhaglen wirfoddoli unedig, Gwirfoddoli Cymru.

• datblygu cymunedau'n lleoedd sy'n cefnogi gwell iechyd a llesiant gan ddefnyddio dulliau fel presgripsiynu cymdeithasol.

(tudalen 21)

Darparu seilwaith modern a chysylltiedig

Mae seilwaith modern ac uchel ei ansawdd yn allweddol er mwyn hwyluso cystadleurwydd a chynhyrchiant. Gall buddsoddiad sbarduno adfywio ehangach a helpu i greu cymunedau llewyrchus. Mae angen mynd ati i gynllunio'r buddsoddiad hwnnw mewn ffordd ddeallus a'i ddarparu'n effeithiol er mwyn iddo gael yr effaith fwyaf bosibl.

O gofio daearyddiaeth Cymru ac anghenion cymunedau gwledig tenau eu poblogaeth, bydd ceir yn parhau'n bwysig, ond mae pwerau newydd dros fysiau a'r fasnachfraint rheilffyrdd yn golygu y byddwn yn gallu gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ar draws pob math o drafnidiaeth. Bydd hynny, yn ei dro, yn ein galluogi i leihau'n hallyriadau carbon, i hyrwyddo teithio llesol, ac i fanteisio i'r eithaf ar ein gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Byddwn yn:
• cyflwyno corff newydd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, er mwyn cryfhau'r gwaith llywodraethu a'r gwaith cynllunio strategol sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau mawr mewn seilwaith.
• yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff iechyd, cymdeithasau tai a phartneriaid allweddol eraill gynllunio cartrefi, cyfleusterau a seilwaith newydd mewn ffordd gydgysylltiedig.
• rhoi un Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar waith, gan helpu i wella holl seilwaith trafnidiaeth Cymru, a chan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng anghenion teithio a'r amcan o leihau allyriadau.
• creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, a fydd yn cynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd a'r rhwydwaith bysiau, ac a fydd yn ddiogel, yn ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn garbon isel.
• darparu Metro De Cymru, a fydd yn ategu datblygiad economaidd y rhanbarth, ac yn lledaenu swyddi a ffyniant drwy ddarparu trafnidiaeth gyflymach, ac a fydd hefyd yn sicrhau bod pob datblygiad newydd ac arwyddocaol yn y rhanbarth o fewn cyrraedd hwylus i orsaf.
• parhau i ddatblygu Metro Gogledd Cymru a byddwn yn gwella trafnidiaeth mewn ffyrdd a fydd yn ei ategu.

• helpu i hyrwyddo mwy o ddefnydd o gerbydau allyriadau isel drwy fuddsoddi mewn rhwydwaith o bwyntiau gwefru.


Pum Blaenoriaeth Drawsbynciol


(tudalen 24)

Tai

Darparu tai diogel a fforddiadwy yw'r ffordd orau i helpu unigolion agored i niwed i oresgyn problemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae buddsoddi mewn tai, mewn creu amgylchedd lleol o ansawdd da, ac mewn defnyddio ynni'n effeithlon, yn dod â manteision economaidd sylweddol, yn creu swyddi ac yn creu cymunedau cryfach.

Byddwn yn:
• mynd ati'n gynt i ddarparu cymorth i ddylunio tai mewn ffordd newydd ac arloesol er mwyn ymateb i'r heriau, sy'n cynnwys yr angen dybryd am dai, tlodi tanwydd, y newid yn yr hinsawdd, a newid demograffig.