16 Awst 2017

Mae Catherine Miller, Rheolwr Environet Cymru WCVA, yn bwrw golwg ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sicrhau sector cyhoeddus di-garbon.

Environet Image

 

 

 

 

 

 

 

Ers sawl blwyddyn, mae gwyddonwyr wedi bod yn rhybuddio ynghylch effeithiau cynhesu byd-eang ac wrth i'r effeithiau hyn ddod yn fwyfwy amlwg, mae'n glir bod angen i ni weithredu nawr. Yn 2015, llofnododd 195 o wledydd gytundeb Newid Hinsawdd Paris. Mae'r cytundeb hwn nid yn unig yn gosod y cyd-destun ar gyfer y ffordd y bydd y 195 o wledydd yn mynd i'r afael ar y cyd ag achosion a chanlyniadau'r newid yn yr hinsawdd, ond hefyd yn gosod y cyd-destun ar gyfer datgarboneiddio'r economi fyd-eang.

Yma yng Nghymru, mae gennym sawl deddfwriaeth a fydd yn ein helpu i weithio tuag at y cynllun ar gyfer economi a chymdeithas ddi-garbon. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hefyd i osod cyllidebau carbon.

Mae'r Ddeddf yn gosod nod i ostwng allyriadau carbon 80% erbyn 2050. Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014, mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng allyriadau 57% ers 1990; cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy ddefnyddio tanwyddau yn fwy effeithlon yn adeiladau'r sector cyhoeddus. Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi targed trawiadol i'r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Rhaid rheoli ffactorau megis caffael nwyddau a gwasanaethau, y defnydd o ynni mewn adeiladau cyhoeddus a gwastraff, a llawer o ffactorau eraill, yn ofalus er mwyn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gweithredu'n gynaliadwy.

Rhoddodd cyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015 Gymru ar flaen y gad o ran polisi datblygu cynaliadwy. Mae'r Ddeddf hon yn arloesol yn ei maes, gan drosi nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn gynllun uchelgeisiol ond ymarferol.

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru y Prosiect Carbon Positif, a edrychodd ar holl weithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru a dadansoddi ei allyriadau carbon a'r carbon sy'n cael ei storio yn y cynefinoedd sydd dan ei reolaeth, er mwyn cyfrifo ei statws carbon net. Bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth ynglŷn ag arfer gorau ac yn gwneud Cyfoeth Naturiol Cymru yn batrwm i eraill o ran lleihau carbon yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Erbyn diwedd y cyfnod Llywodraeth presennol, disgwylir y bydd tua £70m o arian Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau ynni yn y Sector Cyhoeddus. Rhagwelir, fodd bynnag, fod y cyfle am fuddsoddiad yn fwy o lawer na hyn. Twf Gwyrdd Cymru yw menter Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar osod y ffordd o fynd ati i hybu buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni gwyrdd. Mae'r fenter wedi nodi cyfres o brosiectau gyda gwerth cyfalaf o oddeutu £500m. Bydd buddsoddiadau a wneir mewn cynhyrchu ynni gwyrdd yn talu ar ei ganfed drwy arbedion arian parod ar ynni, a gallai arwain at 2.5m tunnell o ostyngiad mewn allyriadau CO2 dros oes yr asedau a ariennir.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wrthi'n edrych ar y ffyrdd gorau o sicrhau bod ei dull i gyrraedd y targed o Sector Cyhoeddus di-garbon erbyn 2030 yn ymarferol ac yn realistig. Croesair barn ac arbenigedd rhanddeiliaid ehangach yn yr ymgynghoriad hwn ac maent yn hanfodol er mwyn rhoi'r cynllun di-garbon ar waith mor effeithiol â phosib.

Lawrlwythwch y dogfennau ymgynghori yma i gael gwybod mwy am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon a chyfrannu at benderfynu sut y gellir rhoi'r cynllun hwn ar waith mor effeithiol â phosib. Y dyddiad cau ar gyfer y cais hwn am dystiolaeth yw 13 Medi 2017.