Chwilio Safle we
yn

Investing in Volunteers

Millennium Volunteers

Volunteer of the Year

Volunteers' Week


Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2010

Cynhelir y cyfle blynyddol i gydnabod a gwobrwyo pobl sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’w cymuned yng Nghymru – gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Logo GGyF
A ydych chi erioed wedi breuddwydio am y cyfle i gael rhoi tipyn o sylw i rywun sy'n gwneud gwaith diflino er budd eu cymuned a sydd, yn eich tyb chi, yn haeddu cael cydnabyddiaeth ehangach am hynny?

Efallai eich bod am dynnu sylw at fudiad sydd wedi sbarduno'ch cymuned i weithredu? Os ydych chi, dyma'r cyfle y buoch yn aros amdano.


Mae Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru, a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac a gefnogir eleni gan CCLA Investment Management Cyf, yn gyfle blynyddol i wobrwyo pobl sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at eu cymuned.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 23 Ebrill 2010.


Gwirfoddolwyr Cymru’n cael eu cyfle blynyddol i ddisgleirio

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn galw am enwebiadau ar gyfer y cynllun gwobrau blynyddol sy’n gwobrwyo ac yn cydnabod gwerth y bobl sy’n cadw olwynion trydydd sector bywiog Cymru’n troi.

Mae’r oedolion a’r bobl ifanc sydd fel rheol y tu ôl i’r llenni’n helpu eraill ar fin cael y cyfle i ddod i flaen y llwyfan yng Ngwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru 2010.