Hyfforddiant & Digwyddiadau
Rydym yn rhedeg cyrsiau a cynhadleddau trwy Cymru gyfan, darpari cyngor ar faterion hyfforddi yn ogystal â rhedeg basdata o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr.
Croeso i’n rhaglen hyfforddi ddiweddaraf
Rydym wedi bod yn gwrando’n astud arnoch ac, fel bob tro, rydym wedi cynllunio ein rhaglen o gwmpas eich anghenion - gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd o ran cyllido a bod mudiadau trydydd sector yng Nghymru yn gorfod newid y ffordd maent yn gweithredu, rheoli eu gweithlu i gyflawni pethau’n fwy effeithiol a phrofi gwerth yr hyn a wnânt - credwn y gall hyfforddi a dysgu helpu i wneud hyn.
Mae 18 o gyrsiau newydd: fe ddewch chi o hyd i gyrsiau i’ch helpu chi i reoli newidiadau, cynllunio ar gyfer canlyniadau a’ch helpu chi i ddatblygu sgiliau a thechnegau i brofi gwerth ac effaith eich gwaith yn nhrydydd sector Cymru
Mae ein rhaglen yn cynnwys gweithdai, cyrsiau hanner diwrnod, dosbarthiadau meistr, seminarau arfer da, dysgu achrededig a heb ei achredu. Rydym wedi llwyddo i gynnal ein prisiau eleni, a chofiwch, yn wahanol i ddarparwyr hyfforddiant masnachol, nid ydym yn codi TAW.
Gall llawer o’n cyrsiau gael eu cyflwyno fel atebion hyfforddi mewnol - ffoniwch ni ar 0800 2888 329 neu e-bostiwch training@wcva.org.uk
Trefnu cwrs hyfforddiant? Angen cyngor arbenigwr? Chwiliwch ein bas data o hyfforddwr ac ymgynghorwyr.
Hyfforddiant a digwyddiadau Medi 2011 - Mawrth 2012
WCVA ffurflen archebu hyfforddiant 2011
Rhaglen hyfforddiant newydd WCVA ar gyfer 2011- 2012
- Cymru'n Rhoi
- Datblygu rheolaeth
- Hyfforddiant Tim Ewropeaidd y Trydydd Sector (3SET)
- Cyfranogaeth Cymru
- Cyllid Cynaliadwy Cymru
- Goruchwylio, cefnogi a datblygu staff
8/Chw/12 @ Ty Baltic, Caerdydd - Sgiliau Hwyluso Effeithiol – NEWYDD (Wedi’i achredu gan Agored Cymru)
21/Chw/12 @ Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod
