Chwilio Safle we
yn

Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Cronfa ddata o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr

Cafodd y gronfa ddata o hyfforddwyr ac ymgynhorwyr ei sefydlu i hwyluso'r gwaith o ddarganfod o recriwtio cymorth proffesiynol i gwrdd ag anghenion mudiadau gwirfoddol a chymunedol.

Mae'n rhaid i aelodau sydd wedi eu cynnwys ar ygronfa ddata gwrdd â meini prawf sylfaenol ac mae'n rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth o'u profiad o weithio yn y sector gwirfoddol ac o weithio fel hyfforddwr neu ymgynghorydd (boed yn y sector gwirfoddol neu sector arall).  Mae'n rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais i gael eu cynnwys ar y gronfa ddata ddangos dealltwriaeth o sut y mae mudiadau yn y sector gwirfoddol yn gweithredu.  Disgwylir tystlythyrau derbyniol gan ddau ganolwr.

Nodwch nad yw WCVA yn cynnig gwarant nac argymhelliad ar gyfer unrhyw unigolyn neu sefydliad a restrir, ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am y gwaith a allant ei wneud ar gyfer eich sefydliad. Rydym yn cynghori pob un sy’n defnyddio’r bas data i gael geirdaon gan unrhyw hyfforddwyr/ ymgynghorwyr y maen nhw’n bwriadu eu cyflogi. 

Gellir nawr chwilio bas data WCVA o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr.  Cliciwch ar ‘chwiliad’ i fynd i’r ffurflen arlein.

Os ydych chi'n hyfforddwr neu ymgynghorydd a hoffai ymuno â'r gronfa ddata o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr yng Nghymru neu os ydych yn rhagweld problemau gyda defynddio'r bas data cysylltwch â John Raftree ar 01970 631130 / e bost help@wcva.org.uk