Newyddion
Mae’r Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn dod â grwp mawr ac amrywiol o fudiadau a gweithwyr y trydydd sector at ei gilydd, gan alluogi:
· mynediad at ddiweddariadau gwybodaeth electronig o amrywiaeth eang o ffynonellau ar gyfer Cymru
· cefnogaeth gan gymheiriaid a rhannu gwybodaeth â hwy
· trafodaethau ‘seiat syniadau’ a mynediad at siaradwyr/seminarau am syniadau newydd heriol
· grwp cyfeirio i’r sector ac i’w bartneriaid allanol
· cyfrannu mewn Cyfarfodydd â’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ceir dau gyfarfod bob blwyddyn a chynhadledd flynyddol yn yr haf, ac anfonir negeseuon e-bost yn rheolaidd.
Os nad ydych chi eisoes yn aelod, ymunwch â’r Rhwydwaith. E-bost: policy@wcva.org.uk