Chwilio Safle we
yn
     

Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Newyddion

Darllenwch y newyddion a’r erthyglau diweddaraf a gyhoeddwyd gan CGGC neu porwch trwy ein rhith-archif i weld hen ddatganiadau i’r wasg ac erthyglau.

2/Chw/10
Gwneud i asedau weithio

“Nid ateb cyflym yw datblygu ased; mae’n waith caled.  Datblygu cynllun busnes yw dim ond y cam cyntaf; gwneud iddo ddigwydd, dyna yw’r darn anodd.”
Kelvin Jones, Prif Swyddog Gweithredol
Ymddiriedolaeth Datblygu Gorseinon

Ydych chi’n ystyried caffael ased?

A oes gennych chi ased a allai fod yn gweithio’n galetach ar eich rhan?

Mae asedau cymunedol yn uchel ar yr agenda yng Nghymru gyda lansiad rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Gronfa Loteri Fawr.  Ceir cydnabyddiaeth gynyddol y gall asedau y mae cymunedau’n berchen arnynt ac sy’n cael eu rheoli ganddynt yn gallu creu cymunedau bywiog a chynaliadwy.

Ond efallai nad yw trosglwyddo a datblygu asedau’n addas i bawb.  Nid dim ond mater o ddatblygu ased yw hyn; mae hefyd yn ymwneud â rheoli’r ased o ddydd i ddydd a datblygu’r ased i greu incwm digonol er mwyn dod yn gynaliadwy.

Mae’r cwrs hyfforddiant undydd hwn yn mabwysiadu ymagwedd gyffredinol ar gyfer datblygu asedau, gan gydnabod y gallai sefydliadau fod yn berchen ar asedau sy’n weladwy, megis adeiladau neu dir, neu rai anweledig, megis sgiliau ac arbenigedd.  Mae’n cwmpasu’r broses o nodi’r ased, i’r gwaith datblygu a rheoli parhaus, er mwyn manteisio i’r eithaf ar ei incwm posibl.  Ymhlith rhai o’r meysydd mae:

• Datblygiad sy’n seiliedig ar asedau
• Rheoli a chynnal ased
• Hyfywedd a chynaliadwyedd ariannol
• Ariannu’r ased
• Trosglwyddo ased: cyd-destun polisi a chronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol
• Ffynonellau cymorth

Bydd cyflwyniad o astudiaeth achos gan sefydliad enghreifftiol yn cynnig gwybodaeth ymarferol am y llwyddiannau a’r ymdrechion sy’n gysylltiedig â datblygu a rhedeg ased cymunedol.

Mae’r cwrs ar gyfer pobl sy’n dymuno cael gwybodaeth am ddatblygiad sy’n seiliedig ar asedau a sut y gall helpu eu sefydliad i ddod yn gynaliadwy’n ariannol.

• 3 Mawrth 2010 - Abertawe
• 9 Mawrth 2010 - Carno

Cost: £25 +TAW ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru.

I gael gwybodaeth bellach ewch i  www.sustainablefundingcymru.org.uk/events. I archebu eich lle cysylltwch â Desg Gymorth CGGC ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk.



Ebostiwch yr erthygl hon i ffrind