Chwilio Safle we
yn
     

Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Newyddion

Darllenwch y newyddion a’r erthyglau diweddaraf a gyhoeddwyd gan CGGC neu porwch trwy ein rhith-archif i weld hen ddatganiadau i’r wasg ac erthyglau.

Newyddion diweddaraf


Yn ddiweddar mae WCVA, mewn ymgynghoriad â fforwm Ewropeaidd y trydydd sector (3-SEF), wedi ymateb i ymarfer myfyrio WEFO ar y rownd bresennol o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a fydd yn helpu i lywio rhaglenni 2014-20.

Yn seiliedig ar brofiad WCVA o gyflenwi prosiectau Ewropeaidd ac adborth gan y sector, mae’r ymateb yn cynnwys ein barn ar beth ddylai’r blaenoriaethau buddsoddi fod yn rhaglenni 2014-20 a pha wersi a ddysgwyd o’r rownd bresennol o Gronfeydd Strwythurol.




Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil Gwasanaethau Cymdeithasol newydd i Gymru.

Cyhoeddwyd y bil ddoe gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas. Mae’n addo rhoi llais a rheolaeth gryfach i ddefnyddwyr gwasanaethau, cryfhau ymyrraeth gynnar gyda gwelliannau gorfodol mewn lles, creu atebolrwydd lleol clir a chryf a gwella integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.




 




Yn gynharach y mis hwn, clywodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC, yn uniongyrchol sut mae prosiectau trydydd sector yn helpu pobl ddi-waith i feithrin sgiliau newydd a chael gafael ar swyddi.

Bu’r Dirprwy Weinidog yn ymweld â Groundwork ym Mhen-y-bont a YMCA yng Nghaerdydd lle mae dwy fenter yn mynd rhagddynt fel rhan o brosiectau Porth Ymgysylltu WCVA a’r Farchnad Lafur Drosiannol.



Nesaf

Datganiadau i'r wasg


 

Mae gwasanaeth i bobl sy’n agored i niwed sydd wedi dylanwadu ar arferion gwaith ledled y DU a chwmni cydweithredol sy’n gyfrifol am ddargyfeirio gwerth £93,000 o fwyd rhag safleoedd tirlenwi ymhlith pedair elusen o Gymru sy’n cael cydnabyddiaeth am eu gwaith mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Tîm dylunio sy’n gwneud offer arbenigol i blant â chyflyrau ar eu hymennydd a phrosiect cymunedol lle mae 95% o’r trigolion wedi helpu i chwalu targedau ailgylchu oedd y rhai eraill a dderbyniodd un o Wobrau Trydydd Sector Cymru.



Bydd rhai o fudiadau gwirfoddol mwyaf arloesol a dyfeisgar Cymru’n cael eu dathlu heno mewn seremoni wobrwyo yn ninas Caerdydd.

Mae tri ar ddeg o grwpiau, yn amrywio o dîm dylunio sy’n gwneud cyfarpar arbenigol i blant gyda chyflyrau ar eu hymennydd, i brosiect cymunedol lle mae 95 y cant o’r preswylwyr wedi helpu i dorri targedau ailgylchu, ymhlith y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Trydydd Sector Cymru.


Nesaf