Chwilio Safle we
yn

Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Grantiau & Benthyciadau WCVA

Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

Nod Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bychain sy’n rhoi budd i’r gymuned. Croesewir ceisiadau gan ystod o brosiectau cymunedol gan gynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau. Rhaid i’r gweithgareddau roi rhyw gymaint o fudd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy’n byw yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. 

Mae dros 180 o ardaloedd ledled Cymru yn gymwys i dderbyn cymorth gan Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf. Pennwyd yr ardaloedd hyn yn Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

Nid oes isafswm ond £5,000 yw’r swm mwyaf y gallwch wneud cais amdano.

Gellir cyflwyno ceisiadau i Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf gydol  y flwyddyn o Ebrill 2010 a phrosesir hwy ar sail y cyntaf i’r felin. Felly, gan fod swm penodol o arian wedi’i ddyrannu i bob ardal Cymunedau yn Gyntaf, y mae o fudd i chi gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl i osgoi’r risg o gael siom am fod yr arian a ddyrannwyd i'r ward i gyd wedi mynd oherwydd gormodedd o geisiadau.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Llun, 31 Ionawr 2011. Dylid anfon y ffurflen gais wedi’i llenwi, ynghyd â gwybodaeth i gefnogi erbyn Dydd Llun, 31 Ionawr 2011.  Nid ydym yn medru derbyn ceisiadau a’u ffacsiwyd neu a’u e-bostiwyd.

Rydym wedi gwneud rhestrau o ganolwyr a benodwyd (ni fedrwch enwebu rhai eich hun) ar gyfer pob ardal.  Mae’r rhestrau hyn ar gael ar Daflenni Gwybodaeth CG2 - Canolwyr Cronfa Ymddiriedolaeth ac maent ar gael i darlwytho yma.  Fe fydd angen i chwi ddewis y daflen wybodaeth ar gyfer yr awdurdod lleol rydych ynddo ac yna dewis rhywun o’r rhestr.

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn gynllun a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac sydd wedi'i anelu at fudiadau bach yn y gymuned yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru. Gweinyddir y gronfa gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Cysylltwch â Lein Gymorth Cymunedau yn Gyntaf am fwy o wybodaeth ar ( 0800 587 8898 * help@wcva.org.uk


*
darlwytho Telerau ac amodau
darlwytho Canllawiau Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf 2010-2011
darlwytho Ffurflen Gais Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf 2010-2011