Cyllid Ewropeaidd
Croeso i adran Cyllid Ewropeaidd gwefan WCVA, sy’n rhoi gwybodaeth am yr ystod o brosiectau Ewropeaidd a gaiff eu rheoli gan WCVA a chyfleoedd am gyllid i fudiadau’r trydydd sector.
Mae gan WCVA hefyd rôl allweddol i’w chwarae drwy Dîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) wrth ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i fudiadau trydydd sector mewn perthynas â rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Gellir cael gwybodaeth ac arweiniad am y Cronfeydd Strwythurol yn adran Cyllid Ewropeaidd gwefan Cyllid Cynaliadwy Cymru.
Cliciwch yr erthygl isod i weld yr erthygle yma yn llawn, neu cliciwch Newyddion ar gyfer rhestr llawn o erthyglau materion Ewropeaidd.
Gwybodaeth a chyngor am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
sustainablefundingcymru.org.uk
Daw’r Cronfeydd Strwythurol gan yr Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol i’r 27 o Aelod-wladwriaethau’r UE i hybu twf economaidd, cyflogaeth a datblygu sgiliau. Bydd tair prif raglen yn gweithredu yng Nghymru yn ystod 2007-2013: rhaglen Cydgyfeirio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd; Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yn Nwyrain Cymru a rhaglen Drawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Cliciwch yma i weld taflenni gwybodaeth Ewropeaidd.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad am Gyllid Ewropeaidd, ewch i wefan Cyllid Cynaliadwy Cymru.
Caiff rhaglenni Cyllid Ewropeaidd yng Nghymru eu cefnogi gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
