Mae WCVA wedi bod yn gweithio gyda chynghorau cyfatebol eraill ledled y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn gwneud y gorau o’u staff cyflogedig, eu gwirfoddolwyr a’u ymddiriedolwyr drwy ddatblygu’r gweithlu a’u bod yn meddu ar y sgiliau y mae arnynt eu hangen.
Ym mhob un o’r pedair gwlad, rydym yn arwain ac yn annog gweithgarwch sy’n helpu mudiadau gwirfoddol a chymunedol i:
- fod yn llefydd gwych i weithio a gwirfoddoli;
- bod yn well cyflogwyr;
- coleddu diwylliant o ddysgu a datblygu.
Datblygiadau yn ddiweddar
Skills-Third Sector
Yn 2008, cyhoeddwyd y byddai corff newydd yn cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu’r trydydd sector yn Lloegr. Bydd Skills - Third Sector yn gorff annibynnol a bydd yn cael ei gyfarwyddo gan fwrdd a fydd yn cynrychioli cyflogwyr y sector. Er mwyn helpu’r corff newydd i gael ei draed tano, bydd Sgiliau er Cyfiawnder yn gweithredu fel deorydd.
Bydd y wefan newydd yn cael ei lansio yn gynnar ym mis Medi 2009, a bydd yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chyfeiriad at:
• Y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf ym myd dysgu a datblygu yn y sector
• Ymchwil a gwybodaeth am fylchau a phrinder sgiliau yn y sector
• Gwybodaeth am gynnal Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi yn eich mudiad
• Dolenni cyswllt i’ch cyfeirio at yr hyfforddiant a’r cymwysterau sydd ar gael
• Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer rolau sy’n berthnasol i’r sector, a gwybodaeth ynglyn â sut y gellir eu defnyddio.
Mae’r holl wybodaeth uchod ar gael ar hyn o bryd ar wefan Datblygu’r Gweithlu yn www.ukworkforcehub.org.uk/learningandskills.
Sut y bydd Skills-Third Sector yn berthnasol i Gymru?
Sefydliad ar gyfer Lloegr yn unig yw Skills - Third Sector ac, o ganlyniad, nid yw’n gweithio’n uniongyrchol yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, gan fod ei gylch gwaith yn cyfeirio ato fel corff pennu safonau ar gyfer y Deyrnas Unedig, mae Skills-Third Sector yn gyfrifol am ddatblygu safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer sectorau penodol a strategaeth cymwysterau ar gyfer sectorau. Mae’n hanfodol felly bod y ddau ddarn o waith yn cael eu datblygu ar y cyd â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a bydd WCVA yn cysylltu â Skills-Third Sector er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Er mwyn rhoi rhagor o gefnogaeth i’r gwaith o ddatblygu gweithlu’r trydydd sector, mae WCVA yn pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi ymrwymiad a chyllid hirdymor er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i fudiadau’r trydydd sector drwy:
- cofi ymwybyddiaeth o'r effaith gadarnhaol y mae gwell sgiliau a gwy bodaeth yn ei chael ar unigolion a mudiadau
- annog mudiadau i fuddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr a chefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus
- datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth
- annog unigolion i ddod i weithio yn y sector
- datblygu prosiectau penodol sy’n cefnogi datblygu gweithlu’r sector gwirfoddol
- hyrwyddo arferion cyflogaeth da.
- gweithredu fel adnodd cyfeirio ar brosiectau eraill a gwybodaeth berthnasol
- cefnogi Cynghorau Sgiliau Sector i ddeall, a chynnwys, y sector gwirfoddol mewn cynlluniau gwaith a gweithgareddau cenedlaethol
- dylanwadu ar bolisi a strategaeth y Llywodraeth
Mae gan bob gwlad ei chynllun gwaith ei hun, yn seiliedig ar angen a glustnodwyd.
Mae gwybodaeth bellach am y gwaith a wneir yn y gwledydd eraill ar gael yn:
Lloegr a'r DU and UK
Yr Alban
