Chwilio Safle we
yn

Investing in Volunteers

Millennium Volunteers

Volunteer of the Year

Volunteers' Week


Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Y Diweddaraf am Wirfoddolwr/wraig y Flwyddyn

Gyda chefnogaeth Gwasanaethau Busnes Peninsula, cyflwynir Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru WCVA mewn pum categori – unigolion, pobl ifanc (dan 25 oed), gwirfoddolwyr ‘gwyrdd’, ymddiriedolwyr a grwpiau. Ceir hyd at dri enillydd ymhob categori, sy’n arwain at 15 enillydd cenedlaethol, a bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrau mewn seremoni yng Nghaerdydd fis Mehefin nesaf, a bydd pawb a enwebir yn derbyn tystysgrifau clod mewn seremoni leol neu drwy’r post.

Enillwyr 2009: bydd pensiynwr a chwpl sydd wedi gweddnewid bywydau trigolion ar ddwy ystâd dai wahanol yn Ne Cymru.

Mae 'Ecoryfelwyr' 14 oed, cyn-athro sy'n gweithio mwy o oriau ar sail wirfoddol i'r RSPCA nac y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu gweithio am dâl a grwp o wirfoddolwyr sy'n cefnogi pobl â nam ar eu golwg - er gwaethaf y ffaith eu bod i gyd naill ai'n gwbl ddall neu'n rhannol ddall eu hunain - ymhlith Gwirfoddolwyr y Fflwyddyn Cymru 2009.

Mae triniwr gwallt sy'n 'meddwl yn wyrdd, yn bwy'n wrydd, yn siopau'n wyrdd ac yn gweithio'n wyrdd', grwp o drigolion sydd wedi penderfynu rheoli'r siop leol olaf yn eu pentref yn hytrach na'i gweld yn cael ei cholli am byth, a thîm o wirfoddolwyr sy'n helpu i adsefydlu troseddwyr rhyw hefyd ymhlith enillwyr y wobr.

Cynhaliwyd uchafbwynt Wythnos Gwirfoddolwyr WCVA ddydd Iau 4 mehefin, gyda seremoni cyflwyno gwobrau wei'i chefnogi gan Gwasanaethau Busnes Peninsula. Cyflwynwyd gwobrau i 16 o enillwyr yn y pum categori enwebu ar gyfer oedolion, pobl ifanc (o dan 25) oed, gwirfoddolwyr 'gwyrdd' ac ymddiriedolwyr, yng Nghastell Caerdydd. Derbyniodd yr holl bobl a enwebwyd dystysgrif o ganmoliaeth uchel.

'Derbyniwyd dros 210 enwebiadau o bob cwr o Gymru ar gyfer pobl sy'n haeddu cybnabyddiaeth am eu blaengaredd, eu hymroddiad a'u rhinweddau personol', meddai Graham Benfield OBE, prif Weithredwr WCVA..

Gellir cael manylion y cynllun, gan gynnwys ffurflenni enwebu, drwy gysylltu â Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu ar help@wcva.org.uk.  Gellir eu llwytho i lawr oddi ar y wefan hefyd www.wcva.org.uk/voty. 23 Ebrill 2010 yw’r dyddiad olaf ar gyfer derbyn enwebiadau.