Chwilio Safle we
yn

Am gymorth cysylltwch â ni
Lein gymorth : 0800 2888 329
neu tecst :
neu tecst : 07797 805628
neu ebostiwch:
help@wcva.org.uk
Bobby WorldWide Approved
This site is
Bobby Approved

Gwasanaethau, disgownt ac adnoddau

Fel aelod fe fyddwch yn medru cymryd mantais o'r canlynol:

Gwybodaeth a chefnogaeth

  • Copiau rhad ac am ddim o'n cylchgrawn dwyieithog
  • E-hysbys bob pythefnos, yn rhoi newyddion ar nawdd, digwyddiadau, materion cyfredol a.y.y.b.
  • Ardal aelodau gwefan WCVA www.wcva.org.uk
  • Papurau briffio ar faterion cyfredol
  • Gwyboadaeth ac arweiniad arbenigol ar gyfleoedd ar gyfer cyllid o Ewrop a pholisiau Ewropeaidd
  • Rhwydweithiau a fforymau arbenigol
  • Archwiliadau cyllid gan Lein Gymorth WCVA ar gyfer eich prosiectau arbennig
  • Cronfa ddata o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol.

Dylanwadu, cynrychioli ac adnoddau
Fel aelod, fe gewch eich ymgynghori ar amryw o faterion a bydd eich sylwadau yn cael eu cyfleu i'r bobl allweddol sy'n gwneud penderfyniadau.  Eich gwahodd i seminarau hysbysu polisi yn rheolaidd i gyfleu effaith ddisgwyliedig polisiau llywodraethol yn y dyfodol ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio'r sector.  Eich cynrychioli e.e. ar bob haen o'r llywodraeth a gyda'r sector yn gyffredinol.

Gwasanaethau a chynhyrchion disgownt WCVA
Fel aelod o WCVA fe allwch arbed cannoedd o bunnoedd yn llythrennol i'ch mudiad ar gynhyrchion a gwasanaethau pob dydd sy'n hanfodol i redeg mudiad gwirfoddol...

Nwyddau WCVA - Hyd at 25% o ddisgownt

  • Cyhoeddiadu, cyrsiau hyfforddi a seminarau WCVA i gyd
  • Hysbysebu yn Rhwydwaith Cymru
  • Llogi ystafelloedd hyfforddi ym Mae Caerdydd a Rhyl sydd a chyfarpar cynhadleddu teledu/fideo a Dolen Glyw

Recriwtio yn y trydydd sector

Defnyddir Recruit3.org.uk i ganfod pobl dalentog ac uchelgeisiol i weithio yn y sector elusennol a gwirfoddol.  Mae pob mathau o swyddi ar wefan recruit3, gan gynnwys swyddi uwch reolwyr, swyddogion codi arian, gofalwyr, staff gweinyddol a mwy. Dyma ganolfan cyflogaeth trydydd sector delfrydol ar gyfer y rhai hynny sy’n chwilio am waith yn ogystal â chyflogwyr, ac mae’n gwbl ddwyieithog.

Cysylltwch â Matthew Bates neu Jane Thomas ar 02920 196700.

 

Croeso i farchnad ar-lein y trydydd sector

Mae 3i3.org.uk yn siop arlein sy'n cael ei rhedeg gan WCVA, gan y trydydd sector, ar gyfer y trydydd sector, lle gallwch brynu a gwerthu bron popeth y gallwch feddwl amdano. Ac er mai dim ond aelodau WCVA all werthu eitemau, gall unrhym un brynu - gan wneud 3i3 yn ffynhonnell incwm werthfawr dros ben. Ac mae'n ddwyiethog hefyd! A allwch fforddio peidio a bod yn rhan o'r datblygiad cyffrous hwn?

 

Gwasanaethau ynni a gostyngiadau

Mae Utility Aid yn helpu elusennau drwy ddarparu gwasanaethau sy’n lleihau eu costau ynni ac yn eu helpu i fod yn fwy ynni effeithlon.  Gall grwpiau trydydd sector gael budd o’u dewis eang o wasanaethau, gan gynnwys gosod mesuryddion smart ac archwiliadau ynni am ddim. Mae Utility Aid yn rhoi cyngor ar bob agwedd yn ymwneud ag ynni, gan gynnwys gwasanaeth dilysu biliau sy'n gwirio eich biliau am unrhyw anghysondebau. Mae Utility Aid yn cynnig cynllun prynu ynni Cyfanwerthu unigryw.

Mae’r holl wasanaethau hyn ar gael i aelodau WCVA, waeth beth fo’u maint.

Hyd yma, mae Utility Aid wedi arbed dros £4 miliwn i gleientiaid elusennau ar eu biliau ynni.  I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0808 178 8170 neu ewch i www.utility-aid.co.uk neu anfonwch e-bost at  stevie.hudson@utility-aid.co.uk .

 

Cyflogaeth a gwasanaethau iechyd a diogelwch

'Sut gallwch chi fod yn ymwybodol o newidiadau mewn deddfwriaeth a delio'n effeithiol a chyfraith gyflogi a materion staff? Mae'r ateb yn syml - Peninsula'. Peninsula yw'r cwmni ymgynghorol mwyaf ym maes cyfraith gyflogi ac iechyd a diogelwch yn y DU. Rydym yn darparu dogfennau a chyngor pwrpasol 24 y dydd, ynghyd ag indemniad gogyfer a'ch costau cyfreithiol - yn cynnwys dyfarniadau tribwnlys - gan adael i chi ganolbywntio ar redeg eich mudiad gyda thawelwch meddwl llwry. 0844 892 2772, www.peninsula-uk.com

 

Ennill incwm - chwilio ar y we
Yn sgil partneriaeth rhwng WCVA a Whitebox, gall ein haelodau osod blychau chwilio’r we Yahoo yn rhad ac am ddim er mwyn cynhyrchu llif incwm diderfyn wrth i bobl chwilio tudalennau ar y we. Gall aelodau fanteisio ar y cynnig hwn mewn tair ffordd:

1. Gosod eich blwch chwilio rhad ac am ddim wedi’i frandio ar eich gwefan neu fewnrwyd.
2. Cael tudalen ar y we wedi’i brandio y gall cefnogwyr ei chadw ymysg eu ‘ffefrynnau’ fel peiriant chwilio neu hafan.
3. Darparu blwch chwilio syml wedi’i frandio fel y gall cefnogwyr ei roi ar eu porwyr gwe gartref neu yn y gwaith.
Whitebox sydd wedi datblygu’r dechnoleg ar gyfer y blwch chwilio, ond bydd yn gweddu i’ch safle ac yn gweithio fel rhan ohono. Gall eich cefnogwyr ei ychwanegu at eu safleoedd eu hunain yn syth bin heb fawr o ymdrech; a thrwy hynny bydd eich mudiad yn ennill mwy o incwm. Po fwyaf o bobl sy’n defnyddio eich blychau chwilio, po fwyaf o incwm a gynhyrchir i’ch mudiad.

I ddysgu mwy am y gwasanaeth newydd hwn, ewch i: http://wcva.poweredbywhitebox.com/

 

Meddalwedd cyfrifiadur
Gall aelodau WCVA brynu nifer diderfyn o feddalwedd Microsoft ac eraill yn cynnwys meddalwedd NAI gwrth-feirws gyda gostyngiadau o hyd at 60 y cant.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Barry Lewis, Pugh Computers ar 01974 200217, ebost barry@pugh.co.uk neu ewch i www.pugh.co.uk

 

Telathrebu
Mae Class Telecommunications, y cwmni cymeradwy sy’n darparu gwasanaethau telathrebu i aelodau WCVA, yn helpu cannoedd o fudiadau gwirfoddol o bob maint i elwa o ostyngiadau sydd wedi’u negodi’n arbennig ar gyfer galwadau ffôn, rhentu llinell, ffonau symudol a defnyddio'r Rhyngrwyd.

Fel aelod o WCVA, fe allwch elwa o’r gwasanaethau a ganlyn:

  • Galwadau Allan* – gostyngiad ar alwadau ffôn heb newid eich llinellau BT na’ch system ffôn Dim lleiafswm cost ar alwadau BT na rheidrwydd i wario hyn a hyn, dim ond galwadau rhatach. Hefyd, ni fydd rhaid talu cyfraddau uwch, drud a byddwch yn arbed arian ar Ymholiadau am Rifau
  • Rhentu Llinell BT – gallwch arbed o leiaf 5% oddi ar rentu llinellau BT. Gallwn hefyd drefnu i gysylltu llinellau newydd
  • Ffonau am ddim- ffôn am ddim a gostyngiad ar rentu llinell a galwadau. Fe allwch drosglwyddo eich ffonau symudol presennol a’ch rhifau i’n pecyn arbennig a derbyn £75 yn ôl ar bob ffôn
  • Band eang – cysylltiad cyflym â’r Rhyngrwyd am £23.99 y mis a dim tâl am alwadau. Fe wnawn ni ymholiadau i weld ydych chi yn yr ardal iawn ac fe helpwn ni chi i gysylltu
  • Rhifau Arbennig  - fel rhif 0800 rhadffon,

*Gallwch weld faint y medrech chi ei arbed drwy ofyn am Ddadansoddiad Arbed Arian AM DDIM.  

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Aidan McAllister ar 0800 652 6464, e-bost wcva@classtelecom.co.uk neu ewch i’r wefan yn www.classtelecom.co.uk.

 

Yswiriant
Cynllunir Polisi Yswiriant Encompass yn benodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r polisi yn cynnig hygyrchedd 24 i gyngor cyfreithiol professiynol ac amrywiaeth eang o fanteision.

Ffoniwch Keegan & Pennykid yn rhad ac am ddim ar 0800 731 8030 neu ffacs 0800731 8448 ebost mail@keegan-pennykid.com ar gyfer cyngor a dyfynbrisiau premiwm.

 

Cynhyrchion hyrwyddo

 

Gall aelodau WCVA gael gostyngiad o 10 y cant ar nifer o eitemau gan Recognition Express North Wales, sy’n cynnig cynhyrchion hyrwyddo, dillad, baneri ac arwyddion, bathodynnau, arddangosiadau, placiau, gwobrau, taflenni/posteri/cardiau busnes a llawer mwy.

Cysylltwch â Chris Kerry ar 01407 810822, anfonwch e-bost at sales@re-northwales.co.uk neu ewch i www.re-northwales.co.uk, gan ddyfynnu ‘WCVA’ gydag unrhyw archeb.

 

Gwasanaeth Cyfieithu Disgownt
Fe fydd angen i fudiadau sy'n aelodau o WCVA ddarparu Cymen gyda'u rhif aelodaeth WCVA er mwyn cadarnhau eu statws, ac i agor cyfrif disgownt.

Cysylltwch â Cymen ar 01286 674409, ymwelwch http://www.cymen.co.uk neu ebost cymen@cymen.co.uk

 

Ystafelloedd cyfarfod, cynadledda a hyfforddi

Ydych chi'n chwilio am leoliad ardderchog ar gyfer cynnal cynhadledd, cyfarfod bach new sesiwn hyfforddi. Mae gan swyddfeydd WCVA ystod o leoliadau gwahanol faint ar gael i'w llogi gyda disgowntiau da i aelodau, ac mae ein hoffer fideo gynadledda'n eich galluogi i gynnal cyfarfodydd gydag unrhyw un yn unrhyw le yn y DU. Mae gan WCVA swyddfeydd ym Mae Caerdydd, Aberystwyth a'r Rhyl a gallant gynnig amrywiaeth o ystafelloedd i'w llogi am brisiau rhesymol. I gael gywbod rhagor, anfonwch neges e-bost i adavies@wcva.org.uk neu ffonio Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329.

 

Llogi cerbydau

Gall aelodau WCVA fantesio ar ddisgwont sylweddol wrth logi cerbydau oddi wrth Enterprise Rent-A-Car.

Cysylltwch a: Johonna Regan ar 02920 663247 neu johanna.m.regan@erac.com a rhowch y cyfeirnod '5UC1507'. Bydd angen prawf o gyflogaeth ar aelodau staff, trwydded yrru a dau brawf or gyreiriad. Mae angen blaendal cerdyn credyd hefyd, a rhaid i'r cerdyn fod yn enw'r gyrrwr.